Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd Jocelyn
Davies, a etholwyd i'r Pwyllgor i fynd yn lle Alun Ffred Jones. Diolchodd y
Cadeirydd i Alun Ffred Jones am ei gyfraniadau i'r Pwyllgor. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
(09:05-10:00) |
Gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 3 PAC(4)-02-15
Papur 1 – Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru Crynodeb Gweithredol o Adolygiad ARUP Papur Briffio Swyddfa Archwilio Cymru James Price
- Cyfarwyddwr Cyffredinol - Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth,
Llywodraeth Cymru Gareth
Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth bellach gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes,
Menter a Thechnoleg, a Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi, ill dau o
Lywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd
James Price y byddai’n gwneud y canlynol: ·
cadarnhau’r dyddiad y penderfynwyd ail-dendro’r
Gwasanaeth Awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn; a phryd cafodd Arup ei gomisiynu i
gefnogi'r broses ail-dendro; ·
rhoi gwybodaeth
ynghylch profiad Arup o ran darparu cyngor yn y maes ym Mhrydain a pham mai
Arup yn benodol a ddewiswyd; ·
rhoi nodyn yn cadarnhau i ba raddau yr oedd y cynnydd o
15% yn archebion gwasanaethau'r llynedd oherwydd y strategaeth farchnata newydd
yn uniongyrchol a sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwerthuso'r strategaeth
hon; a ·
rhannu adroddiad adolygedig Arup pan fydd ar gael. |
|
(10:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a
6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(10:00-10:20) |
Gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. |
|
(10:20-10:40) |
Glastir: Trafod yr ymatebion PAC(4)-02-15
Papur 2 – Llythyr gan Gareth Jones, Llywodraeth Cymru PAC
(4)-02-15 Papur 3 – Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol yr
Amaethwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor ymatebion Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy,
Llywodraeth Cymru, ac ymatebion Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. |