Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Michael Kay 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2       Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (17 Medi 2014)

Dogfennau ategol:

2.2

Menter Twyll Genedlaethol 2012-13: Gohebiaeth y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

2.3

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (26 Medi 2014)

Dogfennau ategol:

09:05-09:50

3.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

PAC(4)-24-14 papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Sarah Rochira - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Alison Phillips - Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Gyfrifon Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer 2013-14, gan holi Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac Alison Phillips, y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

(09:50 - 10:35)

4.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

PAC(4)-23-14 papur 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Nich Bennett - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock – Cyfarwyddwr a Phrif Swyddog, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dave Meadon – Swyddog Cyllid, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Susan Hudson - Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar Gyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2013-14, gan holi Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Chris Vinestock, y Cyfarwyddwr a'r Prif Swyddog, Dave Meadon, y Swyddog Cyllid, a Susan Hudson, y Rheolwr Polisi a Chyfathrebu.

4.2 Cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i anfon nodyn yn egluro'r darpariaethau ar gyfer trefniadau pensiwn ac yn esbonio'r rhesymau am ddiffyg mewn pensiynau yn y gorffennol.

 

 

(10:35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6 a 7 ac Eitem 1 y cyfarfod a gynhelir ar 13 Hydref 2014

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:35-10:45)

6.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10:45-11:00)

7.

Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-25-14 papur 3

 

Cofnodion:

7.1 Oherwydd prinder amser, ni thrafodwyd yr adroddiad drafft gan yr Aelodau. Nododd y Cadeirydd y bydd y Clercod yn cysylltu drwy e-bost i ofyn am eu sylwadau.