Menter Twyll Genedlaethol
Menter Twyll Genedlaethol
Nododd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y
Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) ym mis Mehefin 2014. Mae’r Fenter Twyll
Genedlaethol yn ymarfer paru data sy’n cynorthwyo i ganfod ac atal twyll a
gordaliadau o’r pwrs cyhoeddus ledled y DU. Bydd y Fenter Twyll Genedlaethol yn
paru data ar draws sefydliadau a systemau er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i nodi
twyll a gordaliadau. Ers ei sefydlu ym 1996, mae ymarferion y Fenter wedi
arwain at ganfod ac atal gwerth dros £22 miliwn o dwyll a gordaliadau yng
Nghymru a £939 miliwn ar draws y DU.
Nododd y Pwyllgor
yr arweiniodd Menter Twyll Genedlaethol 2012-13 at ganfod ac atal gordaliadau
gwerth £4 miliwn. Cymerodd pedwar deg tri o gyrff o’r sector cyhoeddus yng
Nghymru ran yn yr ymarfer, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau’r heddlu,
awdurdodau tân, byrddau prawf a chyrff y GIG, Llywodraeth Cymru, Prifysgol
Caerdydd, Swyddfa Archwilio Cymru ac archwilwyr eraill o’r sector cyhoeddus.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/11/2014
Dogfennau