Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan William Graham a Sandy Mewies. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. 1.3 Gwnaeth
Jenny Rathbone ddatgan buddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni
Ewropeaidd (Eitem 4). |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
(09:00-10:00) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 8 Briff ymchwil Y Sector Addysg Uwch Yr Athro Colin Riordan – Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd Jayne Dowden - Prif Swyddog GweithreduDros Dro, Prifysgol
Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Colin Riordan,
Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd, a Jayne Dowden, Prif Swyddog Gweithredol
Dros Dro, Prifysgol Caerdydd ar Gyflogau Uwch-swyddogion. |
|
(10:00-12:00) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru PAC(4)-16-14(papur 1) PAC(4)-16-14(papur 1A) PAC(4)-16-14(papur 3) PAC(4)-16-14(papur 4) PAC(4)-16-14(papur 5) Briff ymchwil Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru Damien O’Brien - Prif Weithredwr WEFO David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu Peter Ryland - Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a
Chyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru,
Damien O'Brien, Prif Weithredwr WEFO, David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Peter Ryland, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Rhaglen Perfformiad a Chyllid Llywodraeth Cymru ar reoli grantiau. 4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda
rhagor o wybodaeth am nifer o faterion. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6, 7 & 8 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:00-12:20) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion. |
|
(12:20-12:40) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth ysgrifenedig PAC(4)-16-14(papur 6) PAC(4)-16-14(papur 7) PAC(4)-16-14(papur 8) PAC(4)-16-14(papur 9) PAC(4)-16-14(papur 10) PAC(4)-16-14(papur 11) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd yr Aelodau'r papurau a thrafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law
yn ystod yr ymchwiliad. Nododd yr Aelodau y bydd y clercod yn dechrau
drafftio'r adroddiad. |
|
(12:40-13:00) |
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn PAC(4)-16-14(papur 12) Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Nododd yr Aelodau'r papur a chytunwyd y byddai'r clercod yn dechrau
paratoi adroddiad interim, gan ddychwelyd at y mater hwn yn yr hydref. |