Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatgan buddiant fel Cadeirydd y
Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan. |
|
(09:00) |
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Sesiwn ymadawol: Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru: Llythyr gan David Sissling (27 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:15) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-11-14 (papur 1) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd Aelodau'r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunwyd i ystyried y wybodaeth a geir ganddo ym mis Mehefin a
mis Medi. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd
at y mater hwn yn dilyn memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a gynlluniwyd
ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar hawliadau ac ar lansiad
y fframwaith diwygiedig. |
|
(09:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5, 6, 7 ac 8 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:15-09:30) |
Ariannu strwythurol yr UE: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-11-14 (papur 2) Cofnodion: 5.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Cronfeydd
Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. 5.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 5.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn ystyried a fydd yn
cynnal ymchwiliad i'r mater hwn. |
|
(09:30-09:45) |
Arian cyhoeddus i Ganolfan Cywain – Y Bala Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-11-14 (papur 3) Cofnodion: 6.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Arian
cyhoeddus i Ganolfan Cywain – Y Bala. 6.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 6.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn ystyried a fydd yn
cynnal ymchwiliad i'r mater hwn. |
|
(09:45-10:00) |
Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Trafod y wybodaeth bellach a'r camau nesaf |
|
(10:00-11:00) |
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-11-14 (papur 5) Cofnodion: 8.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, trafododd yr Aelodau ran o'r adroddiad
drafft a byddant yn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol. |