Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwywyd ar ei ran gan
William Graham. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Llythyr gan David Sissling (10 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at Archwilydd Cyffredinol Cymru (10 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol: |
||
(09:05) |
Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Papurau Briffio Swyddfa Archwilio Cymru Memorandwm Briffio ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papurau. |
|
(9:05-10:00) |
Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 1 PAC(4)-09-14
(papur 1) James
Price - Cyfarwyddwr Cyffredinol - Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth,
Llywodraeth Cymru Mal Drury – Pennaeth
Ymrwymiadau Gweithgareddau Rheilffyrdd /Awyr, Llywodraeth Cymru Gareth Morgan – Dirprwy
Gyfarwyddwr, Cyflawni, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Holodd y Pwyllgor James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes, Menter,
Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru, Mal Drury – Pennaeth
Gweithrediadau Ymrwymiadau Rheilffyrdd/Awyr, Llywodraeth Cymru a Gareth Morgan
– Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflawni, Llywodraeth Cymru ynghylch gwasanaethau awyr o
fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. 4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol
ynghylch nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn hon ac yn Eitem 7. |
|
(10:00-10:45) |
Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 2 PAC(4)-09-14
(papur 2) Martin
Evans - Cymrawd Gwadd – Cyfadran Busnes
a’r Gymdeithas, Prifysgol De Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Holodd y Pwyllgor Martin Evans, Cymrawd Gwadd - Cyfadran Busnes a
Chymdeithas, Prifysgol De Cymru, ynghylch gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng
Caerdydd ac Ynys Môn. |
|
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 7 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-11:00) |
Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch gwasanaethau awyr
o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn
ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn gofyn am nifer o esboniadau a rhagor
o wybodaeth. |