Darren Millar AM
Chair – Public Accounts Committee
National Assembly for Wales
Cardiff Bay
Cardiff CF99 1NA
10 Mawrth 2014
Annwyl Mr Millar
Ymateb i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cysylltiad awyr rhwng y de a’r gogledd – 18 Mawrth 2014
Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r cyfle i ystyried yr argymhellion ym memorandwm briffio Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cysylltiad awyr rhwng y de a’r gogledd.
Mae contract y gwasanaeth yn para tan fis Rhagfyr 2014 ac yn cael ei redeg gan Links Air gyda’r tocynnau’n cael eu gwerthu gan eu partneriaid, Citywing. Sefydlwyd y gwasanaeth awyr yn 2007 ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno gwasanaethau awyr rhwng y gogledd a’r de yn 2004.
Mae Llywodraeth Cymru’n credu bod gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn angenrheidiol i gefnogi datblygiad economaidd y gogledd-orllewin ac i helpu i greu cydlyniant economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn cwtogi ar hyd y daith rhwng y gogledd-ddwyrain a Chaerdydd gan wella’r cysylltiadau â busnesau a chan greu cyfleoedd newydd i dwristiaeth gan fod yr amserlen wedi’i chreu i wneud teithiau undydd yn ddewis ymarferol.
Ymateb i argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru
Argymhelliad Dylai asesiad Llywodraeth Cymru o werth am arian y contract presennol ystyried ymgorffori egwyddorion adolygiad gwerthuso buddiannau Porth 5.
Ymateb Llywodraeth Cymru Mae asesiad gwerth am arian o’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus wrthi’n cael ei gynnal fel rhan o’r arfarniad i helpu Gweinidogion Cymru â’u penderfyniadau ynghylch darparu trafnidiaeth rhwng y de a’r gogledd.
Argymhelliad Dylai Llywodraeth Cymru edrych unwaith eto ar yr achos busnes ar gyfer y Gwasanaeth Awyr gan bwyso a mesur yr holl opsiynau a dadansoddi’r costau a’r manteision gan ddefnyddio’r egwyddorion a ddisgrifir yn Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Dylai’r dadansoddiad ystyried a oes rhywbeth arall y dylem fuddsoddi ynddo yn lle’r Gwasanaeth Awyr a fyddai’n rhoi’r un canlyniadau i ni, er enghraifft, gwella’r gwasanaethau trenau. Dylai Llywodraeth Cymru gofio bod yr hinsawdd o ran yr economi a chyllid cyhoeddus yn wahanol iawn i’r hyn oedd pan gafodd yr achos busnes gwreiddiol ei greu. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried hefyd sut mae’r Gwasanaeth Awyr yn cyd-fynd â’i pholisi trafnidiaeth a datblygu economaidd a chyda’i hamcanion datblygu cynaliadwy.
Ymateb Llywodraeth Cymru Arfer Llywodraeth Cymru yw cadw golwg ar y rhaglenni a’r ymyriadau y mae’n eu hariannu, fel y gwasanaeth trên cyflym rhwng y de a’r gogledd, er mwyn gwneud yn siŵr bod amcanion y llywodraeth yn cael eu bodloni, gan gynnwys o ran cael gwerth ein harian. Rhoddir ystyriaeth i ddulliau amgen o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a fforddiadwy.
Argymhelliad Wrth gaffael contractwyr PSO yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn glir a yw’n barod i dderbyn bidiau gan gonsortia.
Ymateb Llywodraeth Cymru Wrth gaffael o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus yn y dyfodol, cedwir at Reoliadau priodol yr UE.
Argymhelliad Dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod Maes Awyr Caerdydd, RAF y Fali a Chyngor Sir Ynys Môn i gyd yn cyfrannu at yr asesiad o werth am arian, unrhyw achosion busnes yn y dyfodol ac os yn berthnasol, unrhyw gaffael yn y dyfodol. Wrth wneud, byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ystyried beth fyddai effaith cadw’r Gwasanaeth Awyr ar ddatblygiad Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol, gan gynnwys cysylltiadau â meysydd awyr eraill i wneud defnydd gwell o’r awyrennau sydd ar hyn o bryd yn eistedd yn segur ym Maes Awyr am bron saith awr ar y tro.
Ymateb Llywodraeth Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar adolygiad o’r gwasanaeth sy’n cynnwys siarad â Maes Awyr Caerdydd, RAF y Fali ac Ynys Môn.
Argymhelliad Dylai proses drylwyr i reoli buddiannau, yn seiliedig ar egwyddorion Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, ategu ag unrhyw Gontract Gwasanaeth Cyhoeddus newydd ynghyd ag adolygiadau’r Porth wrth reoli unrhyw gontract newydd.
Ymateb Llywodraeth Cymru Gan mai prosiect sengl yw hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu egwyddorion PRINCE 2 (Projects in Controlled Environments) fel y ffordd orau i ymgorffori Proses Adolygu’r Porth.
Yn gywir
James Price