Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammed Asghar. Nid oedd neb yn
dirprwyo ar ei ran. |
||
(09:00-10:15) |
Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth PAC(4)-01-14 (papur 1) Dr Andrew Goodall - Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd y
Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ynghylch
gofal heb ei drefnu. 2.2 Cytunodd
Dr Goodall i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer o faterion a godwyd yn ystod
y sesiwn. |
|
(10:15-11:30) |
Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth Dr Chris Jones - Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Cofnodion: 3.1 Holodd y
Pwyllgor Dr Chris Jones o Fwrdd Iechyd Cwm Taf ynghylch gofal heb ei drefnu. 3.2 Cytunodd
Dr Jones i anfon ymateb ysgrifenedig yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran
gweithredu argymhellion y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar ofal y tu allan
i oriau. |
|
(11:30 - 11:35) |
Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-01-14 (papur 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Ystyriodd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio
Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a'i
nodi. 4.2 Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ganfod a ellir
cyflawni'r gyfundrefn archwilio trawsffiniol heb ddeddfwriaeth. |
|
(11:35) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (9 Rhagfyr 2013) Dogfennau ategol: |
||
Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf (20 Tachwedd 2013) Dogfennau ategol: |
||
Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan (12 Rhagfyr 2013) Dogfennau ategol: |
||
Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (11 Rhagfyr 2013) Dogfennau ategol: |
||
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Rhagfyr 2013) Dogfennau ategol: |
||
(11:35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 7, 8, 9 a 10 Cofnodion: 6.1 Cytunwyd
ar y cynnig. |
|
(11:45 - 12:05) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Ystyriodd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gyfarwyddwr
Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch nifer o
faterion a godwyd yn y dystiolaeth. |
|
(12:05-12:20) |
Fferm Bysgod Penmon: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 8.1 Cafodd y
Pwyllgor ddogfen friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru a nododd fod dau adroddiad
pellach yn cael eu paratoi ar faterion tebyg yn ymwneud â chyllid grant. Nododd
y Pwyllgor hefyd fod disgwyl i Lywodraeth Cymru anfon adroddiad blynyddol ar
reoli grantiau i'r Pwyllgor a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth pan fydd yr
holl wybodaeth hon ar gael. |
|
(12:20 - 12:50) |
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 9.1 Roedd
gwybodaeth bellach am yr ymchwiliad hwn wedi dod i law gan Swyddfa Archwilio
Cymru a ystyriwyd gan y Pwyllgor a bydd yr adroddiad yn adlewyrchu hyn. Trefnir
amser i drafod adroddiad drafft yn ddiweddarach y mis hwn. |
|
(12:50-13:00) |
Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PAC(4)-01-14(papur 3) Cofnodion: 10.1 Cytunodd
y Pwyllgor ar y llythyr a'r Memorandwm. |