Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau bod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn methu â bod yn bresennol a bod ei sesiwn wedi'i hail-drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd. |
||
(09:00 - 10:30) |
Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth 1 PAC(4)-30-13 (p1) Dr Charlotte Jones – Cadeirydd BMA, GPC Cymru Dr David Bailey – Dirprwy Gadeirydd BMA, GPC Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Dr
Charlotte Jones, Cadeirydd BMA, GPC Cymru, a Dr David Bailey, Dirprwy Gadeirydd
BMA, GPC Cymru, ynghylch gofal heb ei drefnu. Camau gweithredu: Cytunodd Dr Jones i anfon copi o'r papur 'Sorted in One Go', y papur 'Solutions' a'r ffigurau ar gyfer gwariant pob bwrdd iechyd fesul claf a fesul blwyddyn ar wasanaethau y tu allan i oriau. |
|
(10:30) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papurau. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7 a’r cyfarfod ar 26 Tachwedd. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30 - 10:35) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar ofal heb ei drefnu a chytunodd i ysgrifennu at y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gael gafael ar y data y cyfeiriwyd atynt yn y sesiwn dystiolaeth flaenorol. |
|
(10:35-10:45) |
Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’ PAC(4)-30-13 (p2) PAC(4)-30-13 (p3) Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori a chytunodd i drafod y mater eto ar ôl i'r adroddiad blynyddol cyntaf gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015. |
|
(10:45 - 11:00) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Cytuno ar yr adroddiad terfynol PAC(4)-30-13 (p3) Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad. Awgrymwyd nifer o fân welliannau a chytunwyd y byddai drafft arall yn cael ei anfon ar gyfer cytuno arno y tu allan i'r pwyllgor. |