Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(09:05 - 10:00) |
Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt' Dogfennau ategol: Linc i 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt' Huw Vaughan Thomas – Archwilydd
Cyffredinol Cymru Mark Jeffs – Arbenigwr Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru Geraint Norman – Rheolwr
Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn
friffio gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt'. Gyda'r Archwilydd
Cyffredinol ar gyfer yr eitem hon roedd Mark Jeffs a Geraint Norman. Yn y
sesiwn friffio cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi cwestiynau. Camau gweithredu: Cytunodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru i ddarparu: ·
Mwy o
wybodaeth yn tynnu sylw at yr arferion da mewn Byrddau Iechyd o ran
amcanestyniadau ariannol. Gofynnwyd i'r Clercod: ·
Drafod
gyda Llywodraeth Cymru a gafodd unrhyw fformiwlâu eu defnyddio i benderfynu
faint o gyllid ychwanegol a gafodd pob Bwrdd Iechyd Lleol ym mis Rhagfyr 2012. |
|
(10:00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2013. |
|
(10:00 - 10:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5, 6 a 7 Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y
cynnig. |
|
(10:05 - 10:35) |
Trafod y dull o ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt' Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor i
gynnal ymchwiliad byr i 'Cyllid Iechyd
2012-13 a thu hwnt'. Yn benodol, cytunwyd i ganolbwyntio ar y canlynol: ·
Ansawdd
y cynlluniau tair blynedd a'r perygl o orlwytho yn y flwyddyn gyntaf ·
Yr
anawsterau o ran sicrhau arbedion ·
Dirywiad
o ran perfformiad mewn rhai meysydd gwasanaeth ·
Diwygio
gwasanaethau a'r cysylltiad â lleihau costau ·
Y
cynnydd mewn hawliadau esgeuluster ·
Y modd y
caiff blaenoriaethau Haen 1 eu penderfynu |
|
(10:35 - 11:00)) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Trafod y materion a godwyd Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y
llythyr drafft. |