Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan ar gyfer eitem 2.

(14:05 - 15:00)

2.

Rheoli grantiau yng Nghymru - Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 'Reolaeth Llywodraeth Cymru o'i pherthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan'

PAC(4) 22-12 – Papur 1 – Rheolaeth Llywodraeth Cymru o'i perthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan

 

Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Mike Usher, Cyfarwyddwr y Grŵp Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Mortlock, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Mark Jones, Rheolwr Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru; Mike Usher, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Ariannol; Matthew Mortlock, Rheolwr Archwilio Perfformiad; a Mark Jones, Rheolwr Archwilio Ariannol.

 

2.2 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 a 7.

Cofnodion:

Eitemau 4 a 7.

(15:00 - 15:15)

4.

Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ymdrin ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Reolaeth Llywodraeth Cymru o'i pherthynas â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor sut oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan’.

(15:30 - 16:10)

5.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan y Comisiwn Archwilio

PAC(4) 22-12 – Papur 2 – Tystiolaeth gan y Comisiwn Archwilio

 

Martin Evans

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Martin Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Polisi Archwilio, y Comisiwn Archwilio.

(16:10 - 17:10)

6.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Nicola Charles, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil a’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; a Nicola Charles, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.

 

Cam i’w gymryd:

 

6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn atodol i’r Pwyllgor ar:

 

·         y rhyngberthynas rhwng Awdurdod yr Heddlu a’r Prif Gwnstabl;

·         enghreifftiau o fodelau bwrdd goruchwyliol a gweithredol sy’n gweithredu mewn perthynas â swyddogaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru;

·         sut, o dan y darpariaethau yn y Bil, y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau i allu rhoi trefniadau sicrhau ansawdd cadarn ar waith y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn parhau i gydymffurfio â Safonau Archwilio Rhyngwladol.

(17:10 - 17:25)

7.

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Comisiwn Archwilio a’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ fel rhan o waith craffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn Nghyfnod 1.

 

Cam i’w gymryd:

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am sicrwydd pellach ar y materion canlynol

 

  • y bydd telerau ac amodau staff Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu diogelu ar ôl trosglwyddo o gyflogaeth yr Archwilydd Cyffredinol i Swyddfa Archwilio Cymru newydd ac y bydd y trefniadau trosglwyddo yn cydymffurfio’n llwyr â thelerau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981;
  • na fydd creu Swyddfa Archwilio Cymru newydd yn arwain at unrhyw rwymedigaethau treth ychwanegol;
  • na fydd y trefniadau newydd yn gwahardd neu’n atal yr Archwilydd Cyffredinol rhag cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol.

 

 

8.

Papurau i'w nodi

 

PAC(4) 22-12 – Papur 3 – Gohebiaeth oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

 

PAC(4) 22-12 – Papur 4 – Gohebiaeth oddi wrth Llywodraeth Cymru am

 Fenter Twyll Cenedlaethol

 

PAC(4) 22-12  - Papur 5 - Llythyr oddi wrth y Amcangyfrif ail Archwilydd Cyffredinol Cymru o Gostau

 

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion.

 

8.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ar y Fenter Twyll Genedlaethol.

 

8.3 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

8.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a threfniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.

Trawsgrifiad