Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14:10 - 14:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2  Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan. Roedd David Rees yno fel dirprwy.

 

(14:15 - 15:00)

2.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)

Vernon Soare, Cyfarwyddwr Gweithredol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vernon Soare, Cyfarwyddwr Gweithredol, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).

 

Cam gweithredu:

 

2.2 Cytunodd Mr Soare i anfon nodyn ychwanegol at y Pwyllgor yn nodi a yw ICAEW yn cefnogi’r model corff corfforaethol a sefydlwyd ar gyfer y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn Lloegr.

 

 

(15:00 - 15:50)

3.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan Prospect ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)

Gareth Howells, Prospect

David Rees, Prospect

Ben Robertson, Undeb y PCS

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ben Robertson, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS); Gareth Howells, Prospect; a David Rees, Prospect.

 

 

 

(15:55)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(15:55 - 16:05)

5.

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) a Prospect fel rhan o’i waith craffu Cyfnod 1 ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

(16:05)

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 24 Medi 2012.

 

Trawsgrifiad