Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Legislation: Sarah Beasley
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd
i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Aled Roberts.
|
2. |
Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal'
PAC(4) 17-12 –
Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl
ifanc sy'n derbyn gofal’
Huw Vaughan
Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Stephen Martin, Rheolwr – Archwilio Perfformiad
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu i’r Cadeirydd wahodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i
friffio’r Pwyllgor ar ei adroddiad ‘Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy’n
derbyn gofal’.
Pwynt gweithredu:
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
·
Rhagor o fanylion am y model a ddefnyddiwyd gan
Lywodraeth yr Alban wrth helpu plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i gael mynediad at addysg uwch.
|
3. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cofnodion:
|
4. |
Opsiynau ar gyfer ymdrin â 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal'
Cofnodion:
4.1 Cytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor
Plant a Phobl Ifanc i ystyried canfyddiadau adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru fel rhan o’i waith craffu ar ddeddfwriaeth sydd ar y gweill ynghylch
gofal.
|
5. |
Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Jane Hutt AC, y
Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Reg Kilpatrick,
Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
Nicola Charles,
Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru
Cofnodion:
5.1 Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, y
Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, sef yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil;
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus,
Llywodraeth Cymru; a Nicola Charles, Gwasanaeth Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.
|
6. |
Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Tystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
PAC(4) 17-12 –
Papur 2 – Archwilydd Cyffredinol Cymru
Huw Vaughan
Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mike Usher,
Cyfarwyddwr Grŵp
– Archwilio Ariannol
Martin Peters,
Rheolwr Cydymffurfio
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.1 Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd
Cyffredinol Cymru; Mike Usher, Cyfarwyddwr y Grŵp
– Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru; a Martin Peters, Rheolwr
Cydymffurfiaeth, Swyddfa Archwilio Cymru.
Pwynt Gweithredu:
6.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu nodyn
atodol i’r pwyllgor ar:
·
ei amcangyfrif o oblygiadau ariannol y Bil,
·
a’i bryderon yn ymwneud
â threfniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau ar gyfer trosglwyddo staff i’r
Swyddfa Archwilio Cymru newydd a sefydlir gan y Bil.
|
7. |
Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Cofnodion:
7.1
Ystyriodd y pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog Cyllid ac
Arweinydd y Tŷ ac Archwilydd Cyffredinol Cymru fel
rhan o waith craffu Cyfnod 1 ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).
|
8. |
Papurau i'w nodi
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
8.1 Nododd y pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 17 Gorffennaf 012.
|
|
Trawsgrifiad
|