Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Roedd Kirsty Williams yn dirprwyo ar
ran Peter Black am ran o’r cyfarfod. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 4,
5, 6, 7, 8, 10, 12 ac Eitemau 1 a 2 ddydd Iau 5 Mawrth Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:05-09:25) |
Arferion Gorau o ran y Gyllideb: Ystyried yr Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft
ar Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2, a chytunwyd ar nifer fach o
newidiadau. |
|
(09:25-09:30) |
Penodi Aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad Lindsay
Foyster fel Aelod anweithredol ar Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru o dan Reol
Sefydlog 18.10(v). |
|
(09:30-09:40) |
Ystyriaeth gychwynnol o’r Bil Rhenti Cartrefi (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y
Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). |
|
(09:40-09:50) |
Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2014-15 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor Amcangyfrif Atodol
Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2014-15. |
|
(09:50-10:00) |
Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb Atodol
Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15. |
|
(10:00-11:00) |
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 Jane Hutt AC,
y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Gawain
Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru Matt
Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane
Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Gawain Evans, Dirprwy
Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru a Matt Denham-Jones,
Pennaeth Rheoli ac Adrodd Cyllidebol, Llywodraeth Cymru. 9.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol: ·
Cadarnhad
os yw’r holl gynlluniau tair blynedd a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd wedi cael
eu cytuno. ·
Darparu
gwybodaeth am y diogelwch a gynigir i’r gyllideb llywodraeth leol. |
|
(11:00-11:15) |
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth
i law. |
|
(11:15-12:15) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 4 Lyn
Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru Steve
Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Daniel
Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 11.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Daniel
Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lyn Cadwallader, Cyfarwyddwr, Un
Llais Cymru ar gyfer ei ymchwiliad. 11.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru i ddarparu gwybodaeth am y ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn derbyn
cwynion. |
|
(12:15-12:30) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 12.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth
i law. |