Yr amcangyfrif atodol o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru
Yr amcangyfrif atodol o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru
Cafodd y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2013. O dan y Ddeddf, roedd swydd Archwilydd
Cyffredinol Cymru yn parhau ac roedd corff newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru
yn cael ei greu. Mae hefyd yn nodi trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn
perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Ar 16
Gorffennaf 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gynigion i ddiwygio Rheolau
Sefydlog i ddirprwyo rhai o’r swyddogaethau yn y Ddeddf i bwyllgor cyfrifol.
Mae’r cynigion hefyd yn diwygio Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus,
gan gael gwared ar y rhai sy’n ymwneud â goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru
a’r Archwilydd Cyffredinol a’u dirprwyo, yn lle hynny, i’r pwyllgor cyfrifol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar 1 Hydref 2013 i ddirprwyo’r swyddogaethau hyn i’r
Pwyllgor
Cyllid. Mae’r swyddogaethau a
ddirprwywyd i’r Pwyllgor Cyllid yn cynnwys craffu ar yr amcangyfrif blynyddol o
incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hynny wedi
sicrhau bod y swyddogaethau hynny ar wahân i rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
o ran goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn gwneud y penderfyniad hwn, bu’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus yn craffu ar amcangyfrif
blynyddol o incwm a threuliau Swyddfa Archwilio Cymru.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2016
Dogfennau