Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyllid ymchwiliad i Ystyried Pwerau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Ombwdsmon presennol wedi tynnu sylw at bum prif
faes o newidiadau i Ddeddf 2005 y mae’n credu byddai’n cryfhau’r rôl. Ystyriodd
y Pwyllgor y pum prif faes a ganlyn:
- pwerau ar ei
liwt ei hun - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ymchwiliadau ar
ei liwt ei hun heb orfod derbyn cwyn am fater yn gyntaf;
- cwynion llafar - ar hyn o bryd, dim ond cwynion
ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn, byddai hyn yn caniatáu i'r
Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar;
- ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus -
byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i fod â rôl o ran rhoi cyngor ar ymdrin
â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;
- awdurdodaeth yr Ombwdsmon (i gynnwys gwasanaethau
iechyd preifat) - byddai hyn yn ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon gan ei
alluogi / galluogi i ymchwilio pan fo claf wedi derbyn gofal iechyd
preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd
cyhoeddus; a
- chysylltiadau â'r llysoedd - cael gwared ar y bar
statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos lle mae
posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan
lys, tribiwnlys neu broses arall (byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr
benderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol iddyn nhw).
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Yn dilyn yr
ymchwiliad hwn, cynhaliodd y Pwyllgor
Cyllid ymgynghoriad ynghylch y
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/01/2015
Dogfennau
- Adroddiad ar Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PDF 876KB)
- Crynodeb o Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i'r Cadeirydd - 3 Gorffennaf 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 214 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus - 3 Mehefin 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 104 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar ran y Cabinet - 17 Chwefror 2015
PDF 100 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidogion Cymru - 15 Ionawr 2015
PDF 100 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, 18 Rhagfyr 2014 (Saesneg yn unig)
PDF 135 KB
- Llythyr gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, 17 Rhagfyr 2014 (Saesneg yn unig)
PDF 368 KB
Ymgynghoriadau
- Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Wedi ei gyflawni)