Ymgynghoriad
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 26 Ionawr 2015 a Dydd Gwener, 20 Mawrth 2015
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- PSOW 01 - Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol (ISCAS) (Saesneg yn Unig)
PDF 433 KB
- PSOW 01a - Dogfen ffeithiau Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru ar gyfer 2013-2014 (Saesneg yn Unig)
PDF 529 KB
- PSOW 01b – Pwyntiau gweithredu Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol o 4 Chwefror 2015 (Saesneg yn Unig)
PDF 4 MB
- PSOW 01c - Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol, Pwynt Gweithredu (Saesneg yn Unig)
PDF 1 MB
- PSOW 02 - Cyngor Tref Cei Connah (Saesneg yn Unig)
PDF 137 KB
- PSOW 03 - Cyngor Cymuned Mochdre gyda Phenstrywaid (Saesneg yn Unig)
PDF 61 KB
- PSOW 04 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PDF 747 KB
- PSOW 05 - Cyngor Tref Abergele (Saesneg yn Unig)
PDF 122 KB Gweld fel HTML (14) 6 KB
- PSOW 06 - Un Llais Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 197 KB Gweld fel HTML (15) 12 KB
- PSOW 07 - Archwilydd Cyffredinol Cymru
PDF 841 KB
- PSOW 07a - Archwilydd Cyffredinol Cymru – Gwybodaeth Ychwanegol
PDF 56 KB
- PSOW 07b - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 55 KB
- PSOW 08 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 236 KB Gweld fel HTML (19) 44 KB
- PSOW 08a - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gwybodaeth Ychwanegol (Saesneg yn Unig)
PDF 307 KB Gweld fel HTML (20) 73 KB
- PSOW 09 - Dr Nick O'Brien (Saesneg yn Unig)
PDF 161 KB Gweld fel HTML (21) 21 KB
- PSOW 10 - Comisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 631 KB
- PSOW 11 - Comisiynydd y Gymraeg
PDF 753 KB
- PSOW 12 - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 800 KB
- PSOW 13 - Comisiwn y Gyfraith (Saesneg yn Unig)
PDF 270 KB Gweld fel HTML (25) 93 KB
- PSOW 14 - Cyngor ar Bopeth Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 566 KB
- PSOW 15 - Cyngor Gofal Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 266 KB Gweld fel HTML (27) 18 KB
- PSOW 16 - Nodyn Briffio Ombwdsmon Gogledd Iwerddon (Saesneg yn Unig)
PDF 356 KB Gweld fel HTML (28) 40 KB
- PSOW 16b - Ombwdsmon Gogledd Iwerddon (Saesneg yn Unig)
PDF 305 KB Gweld fel HTML (29) 104 KB
- PSOW 17 - Cyngor Tref Penarth (Saesneg yn Unig)
PDF 150 KB Gweld fel HTML (30) 23 KB
- PSOW 18 - Cyngor Tref Pontardawe (Saesneg yn Unig)
PDF 99 KB Gweld fel HTML (31) 5 KB
- PSOW 19 - Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
PDF 890 KB
- PSOW 19a– Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
PDF 86 KB
- PSOW 20 - Cyngor Cymuned Marshfield (Saesneg yn Unig)
PDF 433 KB Gweld fel HTML (34) 11 KB
- PSOW 21 - Prifysgol Lerpwl (Saesneg yn Unig)
PDF 205 KB Gweld fel HTML (35) 34 KB
- PSOW 22 - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 276 KB Gweld fel HTML (36) 18 KB
- PSOW 23 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Saesneg yn Unig)
PDF 156 KB Gweld fel HTML (37) 64 KB
- PSOW 24 - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 275 KB Gweld fel HTML (38) 81 KB
- PSOW 25 - Fforwm Gofal Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 190 KB Gweld fel HTML (39) 10 KB
- PSOW 26 - Cyngor Dinas Caerdydd (Saesneg yn Unig)
PDF 219 KB Gweld fel HTML (40) 31 KB
- PSOW 27 - Jennifer Brown (Saesneg yn Unig)
PDF 129 KB Gweld fel HTML (41) 27 KB
- PSOW 28 - Cyngor Tref Yr Wyddgrug (Saesneg yn Unig)
PDF 214 KB Gweld fel HTML (42) 22 KB
- PSOW 29 - Cyngor Tref Treffynnon (Saesneg yn Unig)
PDF 143 KB Gweld fel HTML (43) 5 KB
- PSOW 30 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Saesneg yn Unig)
PDF 150 KB Gweld fel HTML (44) 25 KB
- PSOW 31 - Ymateb ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Saesneg yn Unig)
PDF 298 KB Gweld fel HTML (45) 48 KB
- PSOW 32 - Pwyllgor Safonau a Moesau – Cyngor Dinas Caerdydd (Saesneg yn Unig)
PDF 274 KB Gweld fel HTML (46) 33 KB
- PSOW 33 - Prifysgol Sheffield (Saesneg yn Unig)
PDF 203 KB Gweld fel HTML (47) 36 KB
- PSOW 34 - Cyngor Sir Caerfyrddin (Saesneg yn Unig)
PDF 37 KB Gweld fel HTML (48) 12 KB
- PSOW 35 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn Unig)
PDF 91 KB Gweld fel HTML (49) 33 KB
- PSOW 36 - Pwyllgor Safonau Cyngor Bro Morgannwg (Saesneg yn Unig)
PDF 506 KB
- PSOW 37 - Cyngor Sir Ynys Môn (Saesneg yn Unig)
PDF 108 KB Gweld fel HTML (51) 74 KB
- PSOW 38 - Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn Unig)
PDF 362 KB Gweld fel HTML (52) 22 KB
- PSOW 39 - Anne Carys Jones (Only Available in Welsh)
PDF 113 KB Gweld fel HTML (53) 36 KB
- PSOW 40 - Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru sy’n Gomisiynydd Plant Cymru Dros Dro (Saesneg yn Unig)
PDF 524 KB
- PSOW 41 - Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
PDF 1 MB
- PSOW 42 - Cyngor Tref Brynmawr (Saesneg yn Unig)
PDF 1 MB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i
Ystyried Pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr
Ombwdsmon"). Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.
Mae'r Ombwdsmon presennol wedi tynnu sylw at bum prif faes o newidiadau i
Ddeddf 2005 y mae'n credu fyddai'n cryfhau’r rôl.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried y pum prif faes hyn:
- pwerau ar ei
liwt ei hun - byddai hyn
yn galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb orfod
derbyn cwyn am fater yn gyntaf;
- cwynion llafar - ar hyn o bryd, dim ond cwynion
ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn, byddai hyn yn caniatáu i'r
Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar;
- ymdrin â
chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon
i fod â rôl o ran rhoi cyngor ar ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau
cyhoeddus;
- awdurdodaeth yr
Ombwdsmon (i gynnwys
gwasanaethau iechyd preifat) - byddai hyn yn ymestyn awdurdodaeth yr
Ombwdsmon gan ei alluogi / galluogi i ymchwilio pan fo claf wedi derbyn
gofal iechyd preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â
gofal iechyd cyhoeddus; a
- chysylltiadau
â'r llysoedd - cael gwared
ar y bar statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos lle mae
posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan lys, tribiwnlys neu broses
arall (byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr benderfynu pa lwybr sydd fwyaf
priodol iddyn nhw).
Yn ogystal,
caiff y Pwyllgor ystyried y canlynol hefyd;
- awdurdodaeth – dros amser, mae newidiadau i'r
setliad datganoli wedi arwain at gynnwys meysydd newydd yn yr
awdurdodaeth, a ddylid ystyried cynnwys cyrff eraill yn awdurdodaeth yr
Ombwdsmon;
- argymhellion a
chanfyddiadau - a ddylai
argymhellion yr Ombwdsmon i gyrff cyhoeddus fod yn orfodol. Byddai hyn yn
golygu na chaiff cyrff benderfynu gwrthod y canfyddiadau;
- amddiffyn y
teitl – o ystyried y
ffaith y bu gormodedd o gynlluniau yn galw eu hunain yn ombwdsmyn, yn aml
heb fodloni meini prawf allweddol y cysyniad, fel annibynniaeth ar y rhai
mewn awdurdodaeth a bod yn rhydd i'r achwynydd, a ddylai unrhyw un sy'n
bwriadu defnyddio'r teitl ombwdsmon gael cymeradwyaeth yr Ombwdsmon;
- cod ymddygiad
cwynion – byddai'n
well gan yr Ombwdsmon ganolbwyntio ar yr elfen o'i waith sy'n ymdrin â
defnyddwyr gwasanaethau a darparu gwasanaethau, yn hytrach na
phenderfyniadau awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned. Er bod
gweithdrefnau datrysiad lleol yn bodoli a'u bod wedi cael eu mabwysiadu
gan 22 o awdurdodau lleol, ceir amrywiad wrth ymarfer; ac
- unrhyw agweddau ar ddiwygiadau
arfaethedig i’r sector cyhoeddus neu ddiwygiadau i'r sector cyhoeddus yn y
dyfodol a fyddai’n effeithio ar rôl yr Ombwdsmon ac unrhyw agweddau eraill
ar Ddeddf 2005.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn
croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd
yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.
Ni ddylai’r
dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a
dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau
ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau
Datgelu
gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld am www.cynulliad.cymru/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm.
Gofalwch
eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r
Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael ar gais drwy
gysylltu â'r Clerc.
Dogfennau ategol
- Papur Cefndir - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
PDF 1 MB
- Llythyr ymgynghori
PDF 182 KB Gweld fel HTML (2) 74 KB
- Gwybodaeth Ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (o’r sesiwn dystiolaeth ar 21 Ionawr 2015)
PDF 113 KB
- Gwybodaeth Ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (tystiolaeth y gofynnwyd amdani gan y Cadeirydd) - 25 Chwefror 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 138 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 25 Mawrth 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 97 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.
PDF 99 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565