Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(09:30) |
Papurau i’w nodi |
|
Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Adborth ar ymweliadau’r Pwyllgor ag Ardaloedd Menter Ynys Môn a Dyfrffordd y Daugleddau FIN(4)-13-13 papur 1 – Ardal Fenter Ynys Môn FIN(4)-13-13 papur 2 – Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
(09:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Eitemau 4, 5, 6 a 7 Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(09:30 - 10:00) |
Goblygiadau Ariannol y Bil Sector Amaethyddol Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog (gan anfon copi at bob Aelod) yn amlinellu eu pryderon cyn ail ddarlleniad y Bil. |
|
(10:00 - 11:00) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Sesiwn friffio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Dr David Blaney, Prif Weithredwr, CCAUC Celia Hunt, Pennaeth Sgiliau, Addysg a Chyllido, CCAUC Bethan Owen, Pennaeth Ymgysylltu Sefydliadol, CCAUC Cofnodion: 5.1
Rhoddodd cynrychiolwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drosolwg i’r
Pwyllgor o sut y caiff Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru eu hariannu. 5.2 Cytunodd
HEFCW i ddarparu’r wybodaeth ganlynol: Nodyn ar gyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd sy’n mynd drwy Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. |
|
(11:00 - 11:30) |
Adolygiad o’r flwyddyn FIN(4)-13-13 papur 3 Cofnodion: 6.1 Gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu ei waith dros y flwyddyn flaenorol. |
|
(11:30 - 12:00) |
Rheoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus - trafod yr adroddiad drafft FIN(4)-13-13 papur 4 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau drafftio. |
|
Trawsgrifiad |