Rheoli Asedau

Rheoli Asedau

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i’r broses o Reoli Asedau. Yn benodol, edrychodd y Pwyllgor ar:

  • y prosesau o ran rheoli ystâd Llywodraeth Cymru ei hun; a
  • y canllawiau a’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru o ran rheoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, a’i gwaith yn hyrwyddo arferion da yn hyn o beth.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor ystyried:

  • a yw rheoli asedau yn gysylltiedig ag amcanion polisi ac amcanion strategol ehangach, yn Llywodraeth Cymru, a thrwy’r sector cyhoeddus yn ehangach?
  • pa wersi a ellir eu dysgu, neu sydd wedi’u dysgu, o arferion da yng Nghymru, neu yn rhywle arall, ar hyn o bryd, o ran y modd y gellir gwella dulliau rheoli asedau yn y sector cyhoeddus.
  • pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i reoli asedau mewn modd strategol, a chyflwyno mentrau ar gyfer gwella effeithiolrwydd y dulliau o reoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru?
  • yn 2010, gwnaed yr argymhellion a ganlyn gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac o’ch profiad chi, i ba raddau y gwnaed cynnydd yn dilyn yr argymhellion hyn?

 

    • dylai Llywodraeth Cymru hwyluso rheolaeth fwy effeithiol o dir ac adeiladau ar draws Cymru drwy ymgynghori â chyrff cyhoeddus i ddarganfod pa ganllawiau, gwybodaeth, cymorth neu gymhellion pellach sy’n angenrheidiol i annog dull gweithredu gwell sydd wedi’i gydgysylltu’n well ar gyfer rheoli tir ac adeiladau;
    • sicrhau bod strategaethau tir ac adeiladau wedi’u diweddaru a’u bod yn cysylltu’n glir ag amcanion corfforaethol ac amcanion y gwasanaeth;
    • cynnwys yr holl randdeiliaid yn y gwaith o ddatblygu strategaethau datblygu tir ac adeiladau, gyda pherchnogaeth o’r strategaethau ar y lefel uchaf;
    • datblygu cynlluniau gwasanaeth tir ac adeiladau sy’n cysylltu â’r strategaeth tir ac adeiladau corfforaethol;
    • integreiddio’r gwaith o reoli tir ac adeiladu â’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, cynllunio gweithluoedd a strategaethau TGCh, gan wneud rhagor i wella defnydd ohonynt drwy ddulliau gweithio hyblyg a rhesymoli tir ac adeiladau;
    • sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau dros reoli tir ac adeiladau wedi’u diffinio, eu deall a’u cyfathrebu’n glir.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/03/2013

Y Broses Ymgynghori

Daethyr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar11 Ionawr 2013.

Dogfennau

Ymgynghoriadau