Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau
am absenoldeb gan Gwenda Thomas, Dafydd Elis-Thomas, Mick Antoniw a Rhun ap
Iorwerth. |
||
(09.30-10.30) |
Adfywio canol trefi - craffu dilynol Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd Steffan Roberts, Rheolwr Adfywio, Cartrefi a Lleoedd Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, y Gyfarwyddiaeth
Gynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a
Threchu Tlodi, Kath Palmer, Steffan Roberts a Neil Hemington gwestiynau gan
Aelodau o’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am
yr hyn a ganlyn: ·
Nodyn ar nifer yr ymwelwyr â Bargoed, yn dilyn gosod
archfarchnad Morrisons yng nghanol y dref. ·
Gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i ddyrannu
cyllid o’r gronfa trechu tlodi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac eglurhad o
ran sut mae’n cyd-fynd â’r polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ gan gyfeirio’n
benodol at yr enghraifft o’r cyllid a ddarperir ar gyfer Ynys y Bari. ·
Nodyn i egluro pam y mae’n ymddangos bod polisi ‘canol
trefi yn gyntaf’ Llywodraeth Cymru dim ond yn cael ei roi ar waith yn sgil
datblygiadau manwerthu heb ystyriaeth o leoliad swyddfeydd neu wasanaethau a
staff awdurdodau lleol. |
|
(10.40-11.25) |
Adfywio canol trefi Andy Godfrey, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Bolisi Llywodraeth
Leol, Consortiwm Manwerthu Prydain a Rheolwr Polisi Cyhoeddus Boots Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Atebodd Andy Godfrey gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. |
|
(11.25-12.25) |
Adfywio canol trefi Russell Greenslade, Prif Weithredwr, Ardal Gwella Busnes
Abertawe Antonia Pompa, Cydlynydd, Ardal Gwella Busnes Merthyr
Tudful Ojay McDonald, Rheolwr Polisi, y Gymdeithas Rheoli Trefi
a Dinasoedd Rhiannon Kingsley, Rheolwr Canol y Dref, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd Russell Greenslade, Antonia Pompa, Ojay
McDonald a Rhiannon Kingsley gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. 4.2 Cytunodd Ojay McDonald i ddarparu copi o adroddiad y
Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd ar ei hymgynghoriad ar ardrethi busnes pan
fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben. 4.3 Cytunodd Russell Greenslade i ddarparu gwybodaeth
bellach am fanteision Ardaloedd Gwella Busnes a gweithgareddau Ardal Gwella
Busnes Abertawe. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Adroddiad gan yr ATCM ar Barcio mewn Canol Trefi (Saesneg yn unig) Adroddiad a ddarparwyd gan yr ATCM ar barcio mewn canol
trefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |