Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Eluned Parrott, Jeff Cuthbert a Gwenda Thomas.

(09.30-10.30)

2.

Polisi Ardrethi Busnes - Ffederasiwn y Busnesau Bach

Iestyn Davies, Pennaeth Materion Allanol (Gwledydd Datganoledig), Ffederasiwn y Busnesau Bach

Josh Miles, Cynghorydd Polisi, Ffederasiwn y Busnesau Bach

 

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies a Josh Miles.

(10.40-11.40)

3.

Polisi Ardrethi Busnes - Craffu ar y Gweinidog

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

Tracey Burke, Cyfarwyddwr Strategaeth, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

Chris Sutton, Cadeirydd y Panel Trethi Busnes

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

3.2        Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am Fusnesau Bach a Chanolig sydd wedi elwa o’r Cynllun Ardrethi Busnes, ac sy’n gymwys amdano, ar gyfer pob Ardal Fenter.

3.3        Cytunodd y Gweinidog i ddarparu enghreifftiau o arferion da o ran rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Ngogledd Iwerddon ac unrhyw ddata defnyddiol a ddeilliodd o hyn.

3.4        Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am unrhyw asesiadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud a’r manteision a ddaeth yn sgil cynlluniau dros dro, gan gynnwys yr Ardal Fenter a chynlluniau ardrethi busnes Murco.

3.5        Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am ddatblygiadau o ran ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar a chrynodeb gweithredol o’r astudiaeth y cyfeiriodd y Gweinidog ati.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11.50-12.00)

5.

Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.

(12.00-12.15)

6.

Y Flaenraglen waith

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Flaenraglen Waith Haf 2015.

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr oddi wrth Jane Hutt i William Graham ynghylch y Polisi Ardrethi Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

7.2

Papur ysgrifenedig gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

7.3

Ymateb Consortiwm Manwerthu Prydain i weinyddu ardrethi busnes yn Lloegr (canfyddiadau interim)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

7.4

Crynodeb o'r ymweliadau rapporteur ar 12 Chwefror 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

7.5

Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i William Graham ynghylch y Strategaeth Sgiliau ar gyfer Pobl Hŷn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.