Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
||
(09.15-09.30) |
Ymchwiliad i Dwristiaeth - trafod yr opsiynau ar gyfer ymweliad Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon yn
breifat a chytunwyd i gynnal ymweliadau i dri lleoliad ledled Cymru ar 26
Mehefin 2014. |
|
(09.30-10.00) |
Ymchwiliad Dilynol i STEM - papur briffio ar gyfer y gwe-sgyrsiau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. |
|
(10.15-11.00) |
Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach Mick Antoniw AC Dafydd Elis-Thomas AC William Graham AC Eluned Parrott AC Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor:
Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC, William Graham AC ac Eluned Parrott AC
gymryd rhan yn y gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach. Er y
cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes
o law. |
|
(11.10-11.55) |
Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM Keith Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Joyce Watson AC Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor:
Keith Davies AC, Rhun ap Iorwerth AC, Julie James AC a Joyce Watson AC gymryd
rhan yn y gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn
breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law. |
|
Papurau i’w nodi EBC(4)-11-14 (p.5) - Adroddiad cryno ar y prif bwyntiau sy'n ymwneud â
cham cyntaf yr Arolwg Hydredol o Ardaloedd Menter http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/help/enterprisezones/?skip=1&lang=cy
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol: EBC(4)-11-14 (p.1) - Perfformiad Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru EBC(4)-11-14 (p.2) - Gwybodaeth am gyfranogiad Cymru yn y rhaglen MEDIA
2007 EBC(4)-11-14 (p.3) - Nodyn ar waith Tasglu'r Gweinidog ar gyfer Trafnidiaeth
Gogledd Cymru EBC(4)-11-14 (p.4) - Gwybodaeth ychwanegol am hyrwyddo masnach a
mewnfuddsoddiad EBC(4)-11-14 (p.5) - Adroddiad cryno ar y prif bwyntiau sy'n ymwneud â
cham cyntaf yr Arolwg Hydredol o Ardaloedd Menter 6.2 O ran Papur 3 o'r papurau i'w nodi, cytunodd y Pwyllgor i dderbyn
rhagor o dystiolaeth lafar gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth ynghylch trydaneiddio’r rheilffyrdd. |