Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Amseriad disgwyliedig: Bydd y Pwyllgor ym Mrwsel ar 13-14 Chwefror 2014 fel rhan o’i ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC.  Nid oedd dirprwy ar ei ran.

 

2.

Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 7 (10.15-11.05)

 

Tyst:

·         Ed Payne, Pennaeth Strategaeth, Scottish Development International

 

Dogfennau ategol:

Papur preifat (Papur Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitemau 2 a 3)

EBC(4)-04-14 (papur 1) – Tystiolaeth gan Scottish Development International

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ed Payne, Pennaeth Strategaeth, Scottish Development International.

 

3.

Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 8 (11.10-12.00)

 

Tystion:

·         Guy Warrington, Cyfarwyddwr, Rhanbarthau Lloegr, Masnach a Buddsoddi y DU

·         Gareth John, Uwch Gynghorwr Buddsoddi, Masnach a Buddsoddi y DU

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-04-14 (papur 2) – Tystiolaeth gan Masnach a Buddsoddi y DU

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Guy Warrington, Cyfarwyddwr, Rhanbarthau Lloegr, a Gareth John, Uwch-ymgynghorydd Buddsoddi, ill dau o Fasnach a Buddsoddi y DU.

 

3.2 Cytunodd Gareth John i ddarparu'r dadansoddiad o'r wybodaeth (am ysgolion, prisiau tai ac ati) a roddir gan bartneriaid i ffurfio'r gronfa ddata a ddefnyddir yn sail i'r broses "brysbennu" ar gyfer dewis y meysydd a gymeradwyir i fusnesau fel rhai lle y bydd cyfleoedd i fuddsoddi ac esboniad o'r algorithm a ddefnyddir ar gyfer y broses hon.

 

4.

Papurau i’w nodi

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-04-14 (papur 3) – Papur i'w nodi - TEN-T- crynodeb o geisiadau

EBC(4)-04-14 (papur 4) - TEN-T - Yr ohebiaeth ddiweddaraf ynghylch porthladd Caergybi

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:

 

 EBC (4) -04-14 (p.4)  -TEN-T-crynodeb o geisiadau

 EBC (4) -04-14 (p.5)  - TEN-T-Yr ohebiaeth ddiweddaraf ynghylch porthladd Caergybi

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

Trafod y Flaenraglen Waith

 

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol: trafodaeth yr wythnos nesaf o'r Flaenraglen Waith