Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.45 – 10.45)

1.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: cyfarfod anffurfiol â grwpiau cyfeirio

Cynhelir y grwpiau cyfeirio yn Ystafell Gynadledda C a D, Tŷ Hywel. Sylwer nad yw’r eitem hon ar agor i’r cyhoedd.

(11.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, Lynne Neagle a Kirsty Williams. Dirprwyodd Jenny Rathbone ar ran Lynne Neagle yn ystod eitemau 2, 3, 4 a 5.

2.2 Mynegodd y Pwyllgor ei gydymdeimlad â Lynne Neagle yn dilyn profedigaeth deuluol.

(11.00 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 10

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Camddefnyddio

Dr Sarah Watkins, Uwch-swyddog Meddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y Dirprwy Weinidog gwestiynau gan Aelodau.

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

-     nodyn yn manylu ar y targedau a'r mesurau penodol a gaiff eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i fesur effeithiolrwydd y £50 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau yn ystod y flwyddyn nesaf (yn enwedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau a newid ymddygiad pobl); a

-     chopi o'r gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Sheffield ynghylch effaith cyflwyno isafswm pris uned yng Nghymru.

(12.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod hwn ar gyfer eitemau 5 a 10, ac o'r cyfarfod ar 17 Mehefin 2015 ar gyfer eitemau 1 a 2.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(12.00 - 12.15)

5.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar nifer o bwyntiau nas trafodwyd yn ystod y cyfarfod.

(13.15 - 13.45)

6.

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 1

Simon Burch, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Parry Davies, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.

6.2 Cytunodd y tystion i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am yr asesiad a gynhaliwyd ganddynt ynghylch yr effaith ar wasanaethau gwybodaeth a chyngor os bydd angen i'r pwynt cyswllt cyntaf fod yn hyfedr o ran cynnal asesiadau.

(13.45 - 14.30)

7.

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 2

Emma Sands, Cynghrair Henoed Cymru

Meleri Thomas, Cynghrair Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru

Keith Bowen, Cynghrair Cynhalwyr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.

7.2 Gofynnodd y Cadeirydd i'r tystion rannu eu sylwadau ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gaiff ei dosbarthu fel papur i'w nodi ar gyfer y cyfarfod ar 17 Mehefin 2015.

(14.35 - 15.20)

8.

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 3

Rick Wilson, Cynghrair Cymru ar gyfer Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion

Jim Crowe, Grŵp Cyfeirio Anabledd

Samantha Clutton, Barnardo’s Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.

(15.20)

9.

Papurau i’w nodi

9.1

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd.

9.2

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: gwybodaeth ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd.

9.3

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

(15.20 - 15.30)

10.

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad, a thrafododd y dystiolaeth a ddaeth i law.

10.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn nodi ei bryderon ynghylch y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 4 (anghenion cyfarfodydd).