Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd / Deddfwriaeth: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau ac nid oedd dirprwyon. 1.2 Cytunodd y Pwyllgor i ail-drefnu trefn y busnes, i gymryd eitem 2 olaf. |
||
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Blaenraglen Waith - Hydref 2012 |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Camau gweithredu sy'n deillio o'r cyfarfod ar 4 Gorffennaf |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) / Moderneiddio AGGCC |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog |
||
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd - Adroddiad ar ehangu gwybodaeth am hylendid bwyd |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn iddo ystyried ei adroddiad drafft ar atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad un-dydd ynghylch atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. 5.2 Cafodd y Pwyllgor egwyl rhwng 10:30 a 11:05. |
|
(10.00 - 11.00) |
Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: 2.1 Atebodd y Dirprwy Weinidog gwestiynau aelodau’r Pwyllgor 2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu cerdyn â’r Pwyllgor sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd â’r Gymdeithas Alzheimer i’w ddefnyddio gan bobl sydd â dementia. 2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd a wnaed ers penodi Llysgennad Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru. |
|
Trawsgrifiad |