Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1Nid oedd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.00 - 14.30)

2.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - tystiolaeth gan sefydliadau a darparwyr y trydydd sector ac ar fodelau amgen

(13.00 - 13.45)

2a

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - tystiolaeth gan Gynghrair Ailalluogi Cymru

HSC(4)-12-12 papur 1

          Ed Bridges, Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched

          Philippa Ford, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch gofal preswyl i bobl hŷn.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch a fyddai eu haelodau yn cefnogi rhaglen beilot ailalluogi yn benodol ar gyfer y rhai sydd â dementia.

(13.45 - 14.30)

2b

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan UK Home Care

HSC(4)-12-12 papur 2

          Francis McGlone, Uwch Swyddog Polisi

          Colin Angel, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch gofal preswyl i bobl hŷn.

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 a 22 Mawrth

          HSC(4)-10-12 cofnodion

          HSC(4)-11-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 a 22 Mawrth.

3a

Blaenraglen waith - haf 2012

HSC(4)-12-12 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y papur.

3b

Y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) Drafft - gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-12-12 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3c

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - papur gan yr Athro Andrew Kerslake

HSC(4)-12-12 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor y papur.

3d

Deiseb P-04-329 rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

HSC(4)-12-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor y papur.

3e

Deiseb P-04-375 rhoi terfyn ar system eithrio ar gyfer rhoi organnau

HSC(4)-12-12 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

(14.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i eithrio'r cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

(14.40 - 15.00)

5.

Ymchwiliad un-dydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - ystyried y prif faterion

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion o’r ymchwiliad un-dydd i wasanaethau cadeiriau olwyn.

(15.00 - 15.30)

6.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

Trawsgrifiad