Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AC i’r cyfarfod. Roedd Joyce Watson yn bresennol ar gyfer eitem 2 ar yr agenda ar ran y Pwyllgor Menter a Busnes.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - Briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru

HSC(4)-04-12 papur 1

 

David Worthington, yr Uwch Swyddog Cyfrifol am y Bil

Chris Brereton, Dirprwy Brif Gynghorydd Iechyd yr Amgylchedd

Rob Wilkins, yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Chris Humphreys, Cyfreithiwr

 

 

Egwyl 10.15 – 10.25

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1  Bu swyddogion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

 

2.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, yn unol â chais y Pwyllgor:

·         ffigurau ynghylch nifer yr ymweliadau â thudalennau gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n ymwneud â sgorio hylendid bwyd;

·         dadansoddiad o nifer yr ysbytai yng Nghymru sydd ymhob categori hylendid bwyd;

·         nifer yr ysbytai yng Nghymru sy’n arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar hyn o bryd; a

·         ffigurau cywir ynghylch nifer y busnesau bwyd yng Nghymru sydd wedi cael eu sgorio ers mis Hydref 2010, fesul awdurdod lleol, a dadansoddiad o nifer y busnesau sydd ymhob categori sgorio. 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y Bil Drafft wedi cau.

 

(10.25 - 10.55)

3.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Trafod y gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd

HSC(4)-04-12 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei waith ymgysylltu allanol ar gyfer yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar weithgaredd ymgysylltu arfaethedig a chytunodd i benodi Age Cymru a Gofal Croesffyrdd i weithio ar y cyd er mwyn hwyluso’r gwaith hwn.

 

(10.55 - 11.15)

4.

Blaenraglen waith - Trafodaeth ynghylch sesiynau tystiolaeth un-tro

HSC(4)-04-12 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod pynciau ar gyfer cynnal pedair sesiwn dystiolaeth un-tro yn nhymhorau’r gwanwyn a’r haf.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i geisio cynnal ymchwiliadau undydd mewn perthynas â’r materion a ganlyn:

·         Amseroedd aros ar gyfer cadeiriau olwyn yng Nghymru: gwaith dilynol ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn y Trydydd Cynulliad ar wasanaethau cadair olwyn yng Nghymru;

·         Atal thrombo-emboledd gwythiennol; a

·         Lleihau symudiadau ffetws a marwenedigaeth yng Nghymru.

4.3 Cytunodd y Pwyllgor:

·         i benderfynu’n ddiweddarach ar y pwnc i’w drafod yn ystod ei bedwaredd sesiwn, gan benderfynu rhwng trafod gwasanaethau cyd-ymatebwyr, mynediad at feddyginiaethau ag amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau orthopedeg;

·         i aros am adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ar ei ymchwiliad i anhwylder straen wedi trawma, sy’n mynd rhagddo, cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar y mater hwn; ac

·         y byddai angen mwy nag un diwrnod i drafod anghydraddoldebau iechyd, ac felly y dylid cynnwys y mater hwn ar restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliadau yn y dyfodol.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr

          HSC(4)-02-12 Cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr.

5a

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

HSC(4)-04-12 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-04-318, sef deiseb ar wasanaethau mamolaeth trawsffiniol, a chytunodd i adolygu’r mater hwn yn gyson, yn unol â chais y Pwyllgor.

 

(11.15 - 11.45)

7.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a chytunodd i ddychwelyd er mwyn trafod ei gasgliadau ac argymhellion allweddol yn ystod ei gyfarfod nesaf ar 8 Chwefror.

 

Trawsgrifiad

(11.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ac ar 8 Chwefror

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig  i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod a gynhelir ar 8 Chwefror, ac eithrio’r sesiwn dystiolaeth lafar a gynhelir gyda Jean-Pierre Girard ar yr ymchwiliad i ofal preswyl, a gaiff ei chynnal yn gyhoeddus.