Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon.

(09.15 - 10.05)

2.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Tystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru

Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Alun Thomas, Pennaeth Adolygu, Archwilio a Pholisi

 

          HSC(4)-06-12 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu ymchwil ar chwythu’r chwiban gyda’r Pwyllgor pan fydd yr ymchwil hwnnw ar gael.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am wybodaeth am y cynnydd a wnaed ynghylch hyrwyddo confensiwn gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl hŷn.

(10.05 - 10.55)

3.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Tystiolaeth gan raglen Fy Mywyd mewn Cartref

John Moore, Fy Mywyd mewn Cartref Cymru

          HSC(4)-06-12 papur 2

 

Tom Owen, Cyfarwyddwr, Fy Mywyd mewn Cartref

          HSC(4)-06-12 papur 3

 

 

Egwyl 10.55 – 11.05

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

(11.05 - 11.55)

4.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Tystiolaeth gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth a'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus

Prof John Bolton, y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, Prifysgol Oxford Brookes

          HSC(4)-06-12 papur 4

Julie Jones, Prif Weithredwr, y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth       

HSC(4)-06-12 papur 5

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

4.2 Cytunodd yr Athro Bolton i ddarparu copi o’r ymchwil a wnaed gan yr Athro Andrew Kerslake (y Sefydliad Gofal Cyhoeddus) ar y cliciedau iechyd a all arwain at sefyllfa lle bydd unigolyn yn cael mynediad at ofal preswyl.

 

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o adroddiad a luniwyd gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Lloegr ynghylch dadansoddiad cyllidebol o’r cwmni Four Seasons Health Care.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion cyfarfodydd 2 a 8 Chwefror

          HSC(4)-04-12 cofnodion

          HSC(4)-05-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

5a

Blaenraglen waith - Gwanwyn 2012

HSC(4)-05-12 papur 6

Dogfennau ategol:

5b

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-02-12 papur 7

Dogfennau ategol:

(11.55)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i eithrio'r cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i wahardd aelodau’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 7.

(11.55 - 12.10)

7.

Goblygiadau iechyd cyhoeddus cyfleusterau toiledau cyhoeddus annigonol - Ystyried crynodeb o'r dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar oblygiadau iechyd cyhoeddus cyfleusterau toiledau cyhoeddus annigonol, a chytunodd ar grynodeb ohoni.

Trawsgrifiad