Goblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus

Goblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr ar yr oblygiadau iechyd cyhoeddus o gyfleusterau toiledau cyhoeddus annigonol yn ystod gaeaf 2011-12. Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y cwestiynau canlynol fel rhan o’i gwaith:

 

  • beth oedd yr effaith y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus (neu ddiffyg darpariaeth o'r fath) ar iechyd a lles cymdeithasol person?
  • oedd tystiolaeth bod pobl yn methu â gadael eu cartrefi oherwydd pryderon ynghylch a fydd toiledau cyhoeddus ar gael? Os oes, beth yw goblygiadau hynny o ran iechyd a lles?
  • oedd cydraddoldeb ledled Cymru – ac yng nghyswllt pob person – o ran y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus?

-     sut y dylai cyfleusterau toiledau cyhoeddus ateb anghenion grwpiau gwahanol o bobl (dynion, menywod, pobl anabl, pobl ag anghenion iechyd arbennig, plant)?

-     oedd angen penodol am gyfleusterau gwell ar gyfer grwpiau penodol?

  • pa effeithiau ehangach y gallai darpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus eu cael ar iechyd cyhoeddus a'r gymuned? Er enghraifft, mae gohebiaeth a anfonwyd at y Pwyllgor Deisebau yn awgrymu roedd perygl o faeddu strydoedd, gyda chlefydau'n ymledu yn sgil hynny.

 

Cylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy’n cynnwys: iechyd corfforol, meddyliol a chyhoeddus pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.  O ganlyniad, roedd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar oblygiadau iechyd cyhoeddus y ddarpariaeth o gyfleusterau toiledau cyhoeddus ac nid oedd y Pwyllgor yn gallu ystyried:

 

  • unrhyw ddyletswydd posibl ar awdurdodau lleol i ddarparu cyfleusterau; neu
  • unrhyw gyfleusterau unigol sy’n cael eu cau.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad ym mis Mawrth 2013 (PDF, 597KB). Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013 (PDF, 149KB).

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2011

Dogfennau

Ymgynghoriadau