Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rebecca Evans a Janet Finch-Saunders.  Roedd Ann Jones yno fel dirprwy i Rebecca Evans ac Andrew RT Davies yn ddirprwy i Janet Finch-Saunders.

 

 

(08.45)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 3

 

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(08.45 - 9.15)

3.

Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: trafod y materion allweddol

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sydd wedi codi o’r ymchwiliad.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â’r Rheoliadau Diogelu Data Ewropeaidd.

 

 

(9.15 - 10.00)

4.

Ymchwiliad i broses gwyno’r GIG: sesiwn dystiolaeth 1

·         Keith Evans, Awdur yr Adroddiad ‘Adolygiad o Ymdrin â Phryderon (Cwynion) yn GIG Cymru – “Using the Gift of Complaints”’.

Cyhoeddwyd adroddiad Keith Evans Adolygiad o ymdrin â phryderon (Cwynion) yn GIG Cymru – “Using the gift of complaints” ar 2 Gorffennaf 2014

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(10.00 - 10.45)

5.

Ymchwiliad i broses gwyno’r GIG: sesiwn dystiolaeth 2

·         Y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd AS, cyd-Gadeirydd yr Adolygiad o System Gwyno Ysbytai’r GIG (GIG Lloegr).

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(11.00 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i broses gwyno’r GIG: sesiwn dystiolaeth 3

 

·         Rory Farrelly, Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

·         Nicola Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol ac Arweinydd Trawsnewid Cwynion a Phryderon, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

·         Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

·         Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

·         Carol Shillabeer, Cyfarwyddwr Nyrsio/Dirprwy Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

6.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y canlynol:

 

  • o gyfanswm y cwynion a dderbyniwyd, y gyfran sy'n ymwneud â gofal sylfaenol a'r gyfran sy'n ymwneud â gofal eilaidd yn y GIG yng Nghymru am bob bwrdd iechyd lleol; a

 

  • rhagor o wybodaeth am y dulliau a fabwysiadwyd gan fyrddau iechyd lleol i fesur profiad y claf, gan gynnwys adborth gan gleifion a'u barn am y broses gwyno.

 

 

(11.45 - 12.30)

7.

Ymchwiliad i broses gwyno’r GIG: sesiwn dystiolaeth 4

·         Dr Phil Banfield, Cadeirydd Cyngor Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain

·         Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

·         Jessica Turner, Trefnydd Rhanbarthol UNSAIN Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

 

(12.30)

8.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Mehefin a’r 2 Gorfennaf.

 

8.1

Blaenraglen waith y Pwyllgor: Medi - Rhagfyr 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer mis Medi i fis Rhagfyr 2014

 

(12.30)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 18 Medi 2014

Cofnodion:

9.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.30 - 12.45)

10.

Ymchwiliad i broses gwyno’r GIG: trafod y dystiolaeth mewn sesiwn breifat

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.