Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Policy: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau.
|
||
(09:15 - 10:15) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 1 - AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru Imelda Richardson, Prif
Weithredwr, AGGCC Huw Vaughan Thomas, Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dave Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd
cynrychiolwyr o AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru gwestiynau aelodau’r Pwyllgor. 2.2. Oherwydd mater technegol, gohiriwyd y Pwyllgor rhwng 9.17 a 9.23 |
|
(10:15 - 11:05) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 2 - Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol Andrew Goodall, Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Carol
Shilabeer, Cyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd Iechyd
Addysgu Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Atebodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gwestiynau aelodau’r Pwyllgor. |
|
(11:15 - 11:45) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 3 - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a Chymdeithas y Cleifion Cathy O’Sullivan, Cyfarwyddwr
Dros Dro, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru Katherine Murphy, Chymdeithas y Cleifion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd cynrychiolwyr o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a Chymdeithas y Cleifion gwestiynau aelodau’r Pwyllgor. |
|
(11:45 - 12:15) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Panel 4 - Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Nicola Amery, Cadeirydd
Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru, Rheolwr Ysbyty Spire Caerdydd Steve Bartley, cyn Ddirprwy
Gadeirydd Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru, Rheolwr Cofrestredig Ludlow
Street Karen Healey, Cadeirydd y
Grŵp Uwch-nyrsys, Cyfarwyddwr Nyrsio Vale Healthcare Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Atebodd
cynrychiolwyr o Gymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru gwestiynau aelodau’r
Pwyllgor. 5.2 Cytunodd Nicola Amery i ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro pryderon Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru am drefniadau diogelwch (fel y codwyd ym mharagraff 7.1. o dystiolaeth ysgrifenedig Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru). |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 7,
8 a 11. Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12:15 - 12:25) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - trafodaeth breifat i ystyried y dystiolaeth. Cofnodion: 7.1 Gofynnodd
y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ar: -
Flaenraglen
waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru -
Yr ystod
lawn o waith a chyfrifoldebau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru -
Gwaith a
wnaed gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf -
Dilyn
tystiolaeth i waith arolygu - Astudiaethau achos |
|
(12:25 - 12:30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Gofal Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y memoranda diwygiedig ac atodol ar y Bil Gofal a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc ar ôl y toriad hanner tymor. |
|
(13:30 - 15:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15 - sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Sesiwn i
graffu ar waith y Gweinidog Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda
Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol David
Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Martin
Solis, Cyfarwyddwr Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Bu’r
Pwyllgor yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15
gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol. 9.2 Gofynnodd
y Pwyllgor am nodyn gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn
amlinellu sut y byddai’r gronfa gofal canolraddol o £50 miliwn yn cael ei
dyrannu. 9.3 Gofynnodd y Pwyllgor am nodyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro pa wasanaethau ychwanegol sy’n wynebu dadfuddsoddiad er mwyn cefnogi amseroedd agor estynedig i feddygfeydd. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru - pecyn cymorth i bwyllgorau graffu ar gydraddoldeb Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.2 Nododd y Pwyllgor y pecyn cymorth. |
||
(15:00 - 15:30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15 - trafodaeth breifat i ystyried y dystiolaeth. Cofnodion: 11.1
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu atynt i
geisio eglurhad ar nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn. 11.2 Cytunodd
y Pwyllgor y byddai’r llythyr hwn yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Cyllid er
mwyn llywio’i waith o graffu ar y gyllideb ddrafft.
|