Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Policy: Llinos Madeley  Deddfwriaeth: Sarah Beasley/Fay Buckle/Steve George

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:05 - 09:10)

2.

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Cyfnod 2 - trefn y drafodaeth

Sylwer: Bydd trafodion Cyfnod 2 o'r Bil hwn ond yn mynd yn eu blaen os y cytunir ar yr Egwyddorion Cyffredinol yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref 2013.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y drefn ystyried ar gyfer ei waith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 2.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 a 7.

 

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(09:10 - 10:00)

4.

Gofal heb ei drefnu - sesiwn friffio ar waith y grwp cynghori gweinidogol

Y Farwnes Finlay o Landaf

Veronica Snow

 

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod gwaith y grŵp cynghori gweinidogol ar ofal heb ei drefnu â'r Farwnes Finlay o Landaf a Veronica Snow o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

(10:00 - 11:00)

5.

Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

·         Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Kevin Flynn, Cyfarwyddwr Cyflenwi a Brif Weithredwr GIG Cymru

·         Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a'u swyddogion, gwestiynau'r Pwyllgor.

5.2 Cytunodd y Gweinidog i:

  • ddarparu eglurhad o'r trefniadau i ddarparu brechiadau ffliw i blant drwy feddygon teulu neu'r ysgol, a'r oedrannau perthnasol pan roddir brechiadau o'r fath;
  • darparu linc i'r adroddiad blynyddol ynghylch perfformiad meddygon teulu yn erbyn y Fframwaith Canlyniadau Ansawdd perthnasol;
  • darparu rhagor o wybodaeth am y polisi o gynnig triniaeth ddewisol y tu allan i GIG Cymru os nad oes gan y gwasanaeth y gallu i ddarparu oherwydd pwysau yn gysylltiedig â'r gaeaf; ac
  • ystyried gwneud darn o waith i asesu'r effaith a gaiff achosion o oedi yng nghyswllt gofal dewisol ar ofal yng Nghymru heb ei drefnu.

5.3 Nododd y Dirprwy Weinidog y byddai'n darparu manylion i'r Pwyllgor ynghylch y prosiectau gofal integredig sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru.

5.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i:

·         nodi y bydd yn dychwelyd at y pwnc hwn yn ystod gwanwyn/haf 2014 er mwyn:

                           (i)        adolygu'r cynnydd yn ystod gaeaf 2013/14;

                          (ii)        ystyried canfyddiadau’r ymchwiliad y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef yn fuan ynghylch gofal heb ei drefnu a rôl gofal sylfaenol lleol; ac

                        (iii)        ystyried a oes angen cynnal ymchwiliad ehangach ynghylch gofal heb ei drefnu yn sgîl pwyntiau (i) a (ii).

·         gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y modd yr ystyrir sicrhau bod capasiti yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid ysbytai yn unig, mewn cyfnodau o alw mawr dros gyfnod y gaeaf; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am y sail resymegol a fydd yn cael ei mabwysiadu i ddosbarthu'r £150 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.

 

6.

Papurau i’w nodi

6a

Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

(11:00 - 11:30)

7.

Blaenraglen waith:

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer y cyfnod ar ôl y Nadolig.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr yn fuan yn 2014 ynghylch caethiwed i feddyginiaethau a geir ar bresgripsiwn a dros y cownter. Bydd y pwyllgor yn trafod papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

7.3 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Prif Swyddog Deintyddol i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn:

·         rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect peilot deintyddol; ac

·         archwilio cwmpas ymchwiliad posibl yn y dyfodol i fynediad at ddeintyddiaeth y GIG.