Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Jocelyn Davies, a oedd wedi’i hethol yn lle Lindsay Whittle, i’r Pwyllgor. Diolchodd y Pwyllgor i Lindsay Whittle am ei gyfraniad i’r Pwyllgor.      

 

(9:15-10:15)

2.

Sesiwn graffu ar Fasnachu mewn Pobl: Cynrychiolwyr o’r Grŵp Arwain Atal Masnachu mewn Pobl

Jeff Farrar, Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent

Mark Heath, Awdurdod Trwyddedu Gangfeistri 

Stephen Jones, Cydgysylltydd Rhanbarthol Gogledd Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Grŵp Arwain Atal Masnachu mewn Pobl.  

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig

 

(10:30-11:30)

4.

Sesiwn Briffio Technegol ynghylch y Bil Tai (Cymru)

Ceri Breeze, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Tai

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cartrefi a Lleoedd

Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar y Bil Tai (Cymru). 

 

(11:30-11:40)

5.

Dull y Pwyllgor o graffu ar y Bil Tai (Cymru)

Cofnodion:

5.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor gwmpas a dull y Pwyllgor o graffu ar y Bil Tai (Cymru) yng Nghyfnod 1. 

 

(11:40-11:50)

6.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gwaith.

 

(11:50-12:00)

7.

Trafod adroddiad drafft: Y cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft:  Ymchwiliad i’r cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth lleol:  

 

(12:00-12:25)

8.

Trafod yr adroddiad drafft: Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft:  Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon. 

 

(12:25-12:30)

9.

Llythyr drafft:rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr:  Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru.

 

10.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10. Papurau i’w nodi