Masnachu mewn Pobl

Masnachu mewn Pobl

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd trafod

Ystyried:

  • rôl Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Cymru, gan gynnwys ei effeithiolrwydd a’i gyflawniadau hyd yn hyn;
  • effeithiolrwydd gwaith aml-asiantaeth rhwng adrannau Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff eraill fel y byrddau iechyd a'r heddlu, yn enwedig o ystyried casgliad adroddiad ‘GRETA’ gan Gyngor Ewrop yn 2012, sef bod y DU yn dioddef o ddiffyg arweiniad ar gaethwasiaeth;
  • rôl awdurdodau lleol o ran adnabod a chodi ymwybyddiaeth; fe wnaeth adroddiad SOLACE ar fasnachu mewn pobl yn 2009 argymell bod gan bob awdurdod lleol swyddog arweiniol sy’n gallu darparu cefnogaeth a gwybodaeth i ymarferwyr; a
  • sut mae argymhellion adroddiadau GRETA a SOLACE, ac argymhellion adroddiad y Ford Gron Strategol, yn cael eu datblygu, a chynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/05/2014

Dogfennau