Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad - Dydd Mercher, 27 Mehefin 2012 10.00
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith
Davies. Nid oedd dirprwyon. |
||
(10:00 - 11:30) |
Craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy E&S(4)-19-12 papur 1 10.00 – 10.45: Craffu ariannol 10.45 – 11.30: Sesiwn graffu gyffredinol John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Matthew Quinn, Cyfarwyddwr,
yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Dr Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ymatebodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol ganlynol ar gais aelodau’r Pwyllgor:
|
|
(11.30 - 12.00) |
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 Cofnodion: 3.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy yn ei lythyr ar 26 Mehefin. Cytunodd na ddylai’r Gorchymyn drafft
fod yn destun i’r broses 60 diwrnod. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor
i ymateb i’r Gweinidog gan nodi ei amheuon ynghylch sut mae’r Gorchymyn yn cael
ei drin a’i fwriad i graffu ymhellach ar yr ail Orchymyn. |
|
(12.00) |
Ethol Cadeirydd Dros Dro o dan Reol Sefydlog 17.22 ar gyfer y cyfarfodydd a gynhelir ar 5 ac 19 Gorffennaf Cofnodion: 4.1 Cafodd
William Powell ei ethol yn Gadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor a
gynhelir ar 5 a 19 Gorffennaf. |
|
Trawsgrifiad |