Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Virginia Hawkins 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Llyr Huws Gruffydd a Julie James. Roedd Mark Drakeford yn dirprwyo ar ran Julie James.

(09.30 - 11.30)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan RenewableUK Cymru, Tidal Energy Ltd a West Coast Energy Ltd

E&S(4)-10-11 papur 1 RenewableUK Cymru

E&S(4)-10-11 papur 2 West Coast Energy

E&S(4)-10-11 papur 3 Nuon Renewables

 

Llywelyn Rhys, Pennaeth RenewableUK Cymru

Gerry Jewson, Cadeirydd a Phrif Weithredwr, West Coast Energy

Steve Salt, Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu, West Coast Energy

Martin Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tidal Energy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Mr Jewson i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am ganiatáu datblygiad Tir Gwynt ac am brofiadau West Coast Energy o drefniadau caniatáu yn yr Alban a chyfandir Ewrop. 

3.

Ethol Cadeirydd dros dro, o dan Reol Sefydlog 17.22, ar gyfer y cyfarfod a gynhelir yn y prynhawn ar 1 Rhagfyr

Cofnodion:

3.1 Cafodd William Powell ei ethol yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod a gynhelir yn y prynhawn ar 1 Rhagfyr.

Trawsgrifiad