Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad.

 

 

    • beth yw’r goblygiadau i Gymru os bydd y cyfrifoldeb dros ganiatáu prosiectau seilwaith mawr ar y tir mawr ac ar y môr yn parhau i fod yn fater sy’n cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y DU?  
    • sut mae hyn effeithio ar gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy, fel y’u nodir yn y Datganiad Polisi Ynni? 
    • sut mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn o 2011 ymlaen?
    • beth fydd yr effaith os na fydd penderfyniadau caniatáu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau cysylltiedig yn cael eu gwneud yn unol â pholisi cynllunio Cymru?

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried dwy ddeiseb am ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni gwynt ar y tir mawr a’r effaith ar gymunedau lleol a seilwaith.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2013

Dogfennau