Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Cafodd William Powell ei ethol yn Gadeirydd dros dro.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas a Vaughan Gething ar ôl iddo gael ei benodi yn Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru.

 

 

(09.30 - 11.00)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth

          Ed Bailey, NFU Cymru

Keri Davies, Grŵp Organig Cymru

          Sue Evans, Cymdeithas y Tirfeddianwyr

Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru

Brian Pawson, Cyfoeth Naturiol Cymru

Arfon Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Nick Fenwick i ddarparu copi o’r ffigurau a gynhyrchwyd gan Brifysgol Bangor ynghylch incwm o dwristiaeth bywyd gwyllt.

 

3.3 Cytunodd Nick Fenwick, Brian Pawson ac Arfon Williams i ddarparu rhagor o wybodaeth yn ysgrifenedig am incwm a gollwyd mewn perthynas â chynlluniau amaeth-amgylcheddol.

 

(11.10 - 12.40)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth

Gareth Cunningham, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Dr Euan Dunn, RSPB Cymru

Clare Eno, Cyfoeth Naturiol Cymru

Jeremy Percy, New Under Ten Fishermen's Association

Joanne Sherwood, Cyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2 Cytunodd Jeremy Percy i ddarparu copi o’r nodyn a gynhyrchodd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch bysgodfeydd ar raddfa fach

 

5.

Papurau i’w nodi

5a

Polisi dŵr yng Nghymru - Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

E&S(4)-20-13 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 7, 8, 9 a 10

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y busnes a drefnwyd ar gyfer y sesiwn breifat drwy e-bost.

 

7.

Polisi dŵr yng Nghymru - Adroddiad drafft

8.

Cynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd - Adroddiad drafft

9.

Blaenraglen Waith

10.

Ymchwiliad i reoli tir cynaliadwy - Ystyried y cylch gorchwyl