Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

 

CLA(4)-01-15 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

CLA473 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 28 Tachwedd 2014;  Fe’i gosodwyd ar: 3 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2014

 

2.2

CLA474 - Rheoliadau'r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy'n Gyfan Gwbl neu'n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 2 Rhagfyr 2014; Fe’u gosodwyd ar: 3 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2015.

 

 

2.3

CLA475 - Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 8 Rhagfyr 2014; Fe’u gosodwyd ar: 9 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2015.

 

 

2.4

CLA476 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 8 Rhagfyr 2014; Fe’u gosodwyd ar: 10 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2014

 

 

2.5

CLA478 - Gorchymyn Cynllun Iawndal y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 8 Rhagfyr 2014; Fe’u gosodwyd ar: 10 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2014

 

 

2.6

CLA479 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 8 Rhagfyr 2014; Fe’u gosodwyd ar: 10 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2015.

 

 

2.7

CLA480 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe’i gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: 11 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2).

 

 

CLA(4)-01-15 – Papur 2 – Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, 17 Tachwedd 2014

CLA(4)-01-15 – Papur 3 – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, 1 Rhagfyr 2014

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ac roedd yn fodlon â hwy. O ran CLA479, cytunodd y cynghorydd cyfreithiol i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor.

 

 

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

CLA477 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe’i gwnaed ar: 8 Rhagfyr 2014; Fe’u gosodwyd ar: 10 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2014

 

CLA(4)-01-15 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(4)-01-15 – Papur 5 – Gorchymyn

CLA(4)-01-15 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

 

3.2

CLA485 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: 23 Rhagfyr 2014; Fe'i gosodwyd ar: 23 Rhagfyr 2014; Yn dod i rym yn unol ag erthygl .

 

CLA(4)-01-15 – Papur 7 – Adroddiad

CLA(4)-01-15 – Papur 8 – Gorchymyn

CLA(4)-01-15 – Papur 9 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-01-15 – Papur 10 – Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, 23 Rhagfyr 2014

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.   Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywodraeth i edrych ar sut yr ymdrinnir ag offerynnau yn y dyfodol.

 

4.

Adroddiad Monitro Sybsidiaredd - mis Mai i fis Rhagfyr 2014

CLA(4)-01-15 - Papur 11 – Adroddiad Monitro Sybsidiaredd mis Mai i fis Rhagfyr 2014

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor yr adroddiad ac roedd yn fodlon ag ef.

 

5.

Papurau i’w nodi

CLA(4)-01-15 – Papur 12 – Datganiad ysgrifenedig Gwelliant i’r Bil Seilwaith sy’n darparu pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau adeiladu ar gyfer camau i leihau carbon oddi ar y safle

 

 

CLA(4)-01-15 – Papur 13 – Datganiad ysgrifenedig Cyhoeddi’r adroddiad yn dilyn yr Adolygiad Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru

 

 

CLA(4)-01-15 – Papur 14 – y Bil Cynllunio (Cymru), llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, 2 Rhagfyr 2014

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.  Mewn perthynas â'r llythyr gan y Gweinidog ar y Bil Cynllunio (Cymru), croesawodd yr Aelodau y wybodaeth fanwl yn amlinellu'r berthynas rhwng Bil Cynllunio (Cymru), Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Bil yr Amgylchedd (Cymru).

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(vi) mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.

 

6.1

Blaenraglen waith

CLA(4)-01-15 – Papur 15 – Blaenraglen waith

 

6.2

Adroddiad Drafft ar y Bil Cynllunio (Cymru)

CLA(4)-01-15 – Papur 16 – Adroddiad Drafft

 

CLA(4)-01-15 – Papur 17 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol