Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC a Suzy Davies AC.

Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan William Powell AC, gydag Eluned Parrott AC yn dirprwyo ar ei ran.

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, enwebodd Eluned Parrott AC Simon Thomas AC i fod yn Gadeirydd dros dro.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(4)-25-14 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

CLA449 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol: Fe’u gwnaed ar: 24 Medi 2014; Fe'u gosodwyd ar: 1 Hydref 2014; Yn dod i rym ar: 31 Hydref 2014.

 

2.2

CLA450 - Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) (Diwygio) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'i gwnaed ar: 24 Medi 2014; 1 Hydref 2014; Yn dod i rym ar: 22 Hydref 2014

 

2.3

CLA451 - Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 1 Hydref 2014; Fe'u gosodwyd ar: 6 Hydref 2014; Yn dod i rym ar: 27 Hydref 2014

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ac roedd yn fodlon â hwy.

 

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Datganiad Ysgrifenedig - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Dull o weithredu’r is-ddeddfwriaeth i’w gwneud dan y Ddeddf

CLA(4)-25-14 – Papur 2– Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig.

 

3.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Barn resymedig y Comisiwn Ewropeaidd ar wastraff mercwri metelaidd

CLA(4)-25-14Papur 3– Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.

 

4.1

Adroddiad Terfynol ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

CLA(4)-25-14 – Papur 4– Adroddiad Terfynol