Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd
Cyswllt: Abigail Phillips Dirprwy Glerc: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. Diolchodd y Cadeirydd i Joyce Watson am gadeirio’r cyfarfod ar 13 Mawrth. |
|
(09.00 - 09.10) |
Trafod y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb i’r ohebiaeth a anfonwyd at Cricket Scotland a Cricket Ireland. |
|
(09.10 - 09.15) |
Deisebau newydd |
|
P-04-371 Tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob plentyn hyd at 18 oed Dogfennau ategol: |
||
P-04-382 Costau teithio i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd deisebau
P-04-371 a P-04-382 eu grwpio ar gyfer eu trafod, a bu’r Pwyllgor yn eu trafod
am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y
Pwyllgor: I wirio a yw’r
Gweinidog ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch
deisebau tebyg; I dynnu sylw’r
Gweinidog at y deisebau pellach hyn; I edrych ar
ddyddiadau ymweliad y Pwyllgor â’r gogledd i weld a fyddai’n bosibl clywed
tystiolaeth gan fyfyrwyr fel rhan o’r ymweliad hwnnw. |
||
P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y mater gan ei fod wedi llofnodi Datganiad Barn Ysgrifenedig am y pwnc. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Prif Weinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater. |
||
P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor: I aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater; Ysgrifennu at Trafnidiaeth
Canolbarth Cymru (TraCC) am y mater. |
||
P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd am y mater. |
||
P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd am y mater. |
||
(09.15 - 09.25) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn. Cam i’w gymryd Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd a chytunodd i aros am ymateb gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol. |
||
P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Deisebydd. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor: I ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo gynnwys eglwysi annibynnol yn nhrafodaethau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen; I ofyn i’r Gweinidog pryd fydd cyfarfodydd cyhoeddus am y Bil Treftadaeth yn cael eu cynnal a hysbysu’r deisebydd; Ysgrifennu at Cadw am y mater. |
||
P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i gynghori’r deisebydd i gyflwyno ei sylwadau i ymgynghoriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar bêl-droed yng Nghymru, ac i gau’r ddeiseb. |
||
P-03-124 Cysgliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o drawsgrifiad cyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ar 21 Mawrth at y deisebydd a chau’r ddeiseb. |
||
P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a’r deisebydd. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan nad yw’r targed a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yn un statudol, a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-359 Problemau gyda’r GIG ar gyfer y byddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac un ymateb i’r ymgynghoriad. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn iddo gadw golwg ar y mater, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
|
||
P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Datganodd Joyce Watson fuddiant yn y ddeiseb gan ei bod wedi ymgymryd â gwaith ar y mater yn flaenorol. Cam i’w gymryd |
||
P-04-353 Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, sef y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ. Cam
i’w gymryd |
||
(09.25 - 09.50) |
P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar Rob
Hepworth, Cadeirydd yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casnewydd a Sir Fynwy (SNIC) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor. |
|
(09.50 - 10.15) |
P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar Tim Peppin,
Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Rob Quick,
Uwch-swyddog Adrodd, Prosiect Gwyrdd Mike Williams,
Cyfarwyddwr, Prosiect Gwyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor: I ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am y datganiad gan Grŵp Gweithredu Unedig y Cymoedd (UVAG) bod Llywodraeth Cymru wedi atal cais y cyngor i gaffael triniaeth fiolegol fecanyddol a bod pwysau ariannol arno i ymuno a’r Prosiect Gwyrdd; Anfon datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef bod elfen o losgi ynghlwm â phob dull o ymdrin â gwastraff, ymlaen at y deisebwyr i gael eu barn arno. Cytunodd cynrychiolwyr y Prosiect Gwyrdd i anfon manylion ynghylch faint o dunelli o ludw peryglus sy’n gorfod cael ei drosglwyddo o ganlyniad i losgi ac a oes unrhyw losgyddion sy’n cael eu cau yn yr Unol Daleithau yr un math â’r rhai sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru. |
|
(10.15 - 10.40) |
P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar Matthew Farrow, Cyfarwyddwr Polisi, y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol Julie Barratt, Cyfarwyddwr, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor. Cam i’w gymryd |
|
(10.40 - 11.00) |
P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Jasper Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Effeithlonrwydd Gwastraff ac Adnoddau Dr Andy Rees, Pennaeth y Gangen Strategaeth Wastraff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Gweinidog a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor. Cam i’w gymryd |
|
Papurau i'w nodi |
||
P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove Dogfennau ategol: |
||
P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus Dogfennau ategol: |
||
P-04-358 Ailgyflwyno cymorth cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a'u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |