Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13:00 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.46 Gofynnwyd y 10
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2016-17 NDM5988 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn unol ag Adran 84H o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth
Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. Dogfen Ategol Adroddiad
Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau) (Saesneg
yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 14.31 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5988 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol –
Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Setliad yr Heddlu 2016-17 NDM5989 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn unol ag Adran 84H o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth
Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu).
Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. Dogfen Ategol Adroddiad
Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr
Heddlu a Throseddu) (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.09 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5989 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol –
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(0 munud) |
Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Tynnwyd yn ôl |
|||||||||||||||||
(10 munud) |
Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad NDM5990 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn mabwysiadu'r Cod
Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. Dogfen Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.40 NDM5990 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer
Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM4945 Eluned Parrott (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob
blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad
yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed; 2. Yn cydnabod bod pobl
sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac
amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n
marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl; 4. Yn credu bod angen
gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau
hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu
gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain; 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) gwella'r broses o
gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf; b) sicrhau bod cymorth
dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl
hunan-niwed neu geisio cyflawni hunanladdiad; c) darparu ffyrdd mwy
effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth; d) edrych ar gyflawni
prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y
gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac
enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac e) asesu'r cymorth sydd
ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl. Cefnogir gan: William Powell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.42 NDM4945 Eluned Parrott (Canol De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o
bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r
ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth
ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed; 2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o
gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o
bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un
neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl; 4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i
siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth
a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar
eu pen eu hunain; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai
sy'n wynebu'r perygl mwyaf; b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n
mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio
cyflawni hunanladdiad; c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at
wasanaethau gwrando ac eiriolaeth; d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth
tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n
briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a
rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd
unigolion sydd â salwch meddwl. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod NDM5991 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn dathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Menywod i gydnabod cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol
a gwleidyddol menywod yng Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb
rhwng y rhywiau – a hynny'n benodol mewn bywyd cyhoeddus. Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd
erioed. Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen. Gwelliant 3 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n
rhestru cwmnïau mawr yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu
cyhoeddi erbyn 2018. Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod menywod sy'n gweithio yng Nghymru wedi wynebu
cynnydd mwy mewn costau gofal plant nag mewn mannau eraill yn y DU. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.22 NDM5991
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i gydnabod
cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod yng
Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau – a hynny'n
benodol mewn bywyd cyhoeddus. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd erioed. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod
mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu
cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n rhestru cwmnïau mawr
yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cyhoeddi erbyn 2018. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
at y ffaith bod menywod sy'n gweithio yng Nghymru wedi wynebu cynnydd mwy mewn
costau gofal plant nag mewn mannau eraill yn y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5991
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i
gydnabod cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol
menywod yng Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau –
a hynny'n benodol mewn bywyd cyhoeddus. 2. Yn nodi
mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd erioed. 3. Yn nodi
bod mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen. 4. Yn
croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n rhestru
cwmnïau mawr yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cyhoeddi
erbyn 2018.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.17 |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5987 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cadw llywodraeth leol yn
lleol - yr achos dros ddiogelu Sir Benfro rhag cynlluniau uno Llywodraeth
Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.19 NDM5987 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cadw
llywodraeth leol yn lleol - yr achos dros ddiogelu Sir Benfro rhag cynlluniau
uno Llywodraeth Cymru. |
|||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion |