R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
1. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0427(NR)
2. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth am amaethyddiaeth a materion gwledig ar gael i ffermwyr? OAQ(4)0416(NR)
3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae canllawiau ar geisiadau cynllunio cloddio glo brig yn rhoi ystyriaeth i anghenion cymunedau lleol? OAQ(4)0421(NR)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyletswydd cyrff nad ydynt wedi'u datganoli i gydymffurfio â Bil yr Amgylchedd (Cymru)? OAQ(4)0426(NR)W
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Sut y rhoddir ystyriaeth i faterion amgylcheddol wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar raddfa fawr ar gyfer datblygiadau tai? OAQ(4)0418(NR)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n dlawd o ran tanwydd? OAQ(4)0415(NR)
7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faterion sy'n gysylltiedig â llifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0428(NR)
8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0419(NR)W
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar saethu adar hela yng Nghymru? OAQ(4)0422(NR)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn cymunedau arfordirol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0414(NR)
11. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau ar geisiadau ar gyfer cynlluniau pŵer trydan dŵr? OAQ(4)0417(NR)
12. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd ac mae awdurdodau lleol yn ei wneud o ran cwrdd â'u targedau ailgylchu? OAQ(4)0425(NR)
13. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffurflen gais sengl 2016 ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol? OAQ(4)0424(NR)W
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr? OAQ(4)0420(NR)W
15. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy'n cael eu cymryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i warchod ein cefn gwlad? OAQ(4)0423(NR)
Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd rheoliadau gofal plant yn cael effaith andwyol ar wasanaethau chwarae o dan oruchwyliaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol? OAQ(4)0433(CTP)
2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gellir prif-ffrydio yr hyn a gyflawnir gan Dechrau'n Deg? OAQ(4)0437(CTP)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â'r galw am dai mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0428(CTP)
4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd a wnaed o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0438(CTP)W
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog yn nodi’r cynnydd a wnaed ar draws portffolios Llywodraeth Cymru o ran cyflawni amcanion Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0434(CTP)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru? OAQ(4)429(CTP)
7. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Cymunedau yn Gyntaf yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0432(CTP)
8. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd a wnaed o ran hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yn ystod y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0439(CTP)W
9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant yn Nhorfaen? OAQ(4)0440(CTP)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am undebau credyd yng Nghymru? OAQ(4)0431(CTP)
11. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith diwygiadau lles ar dlodi absoliwt yng Nghymru? OAQ(4)0427(CTP)
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post mewn perthynas â darparu gwasanaethau Swyddfa'r Post yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)430(CTP)
13. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post mewn perthynas ag effaith o adleoli swyddfeydd post yn Aberystwyth a Thregaron? OAQ(4)0436(CTP)W
14. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant rhaglenni trechu tlodi Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0435(CTP)W
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfywio canol trefi yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0426(CTP)