Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y naw cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.19 Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn cyhoeddi adroddiad Jillings? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.28 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Cymunedau Mwy Diogel i Bawb - Y wybodaeth ddiweddaraf am Bennod 7 o'r Rhaglen Lywodraethu - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau Trafnidiaeth - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymateb i'r Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.41 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd o ran Datblygiad Rhaglenni Cyllid Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020 ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad “Cymru a'r UE: Partneriaeth ar gyfer Swyddi a Thwf” Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.29 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.02 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) NDM5289 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Sector
Amaethyddol (Cymru). Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y
weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil o ystyried y cyfle a gafodd i
wneud hynny, a fyddai wedi cynnwys; a) pwyllgor yn craffu’n fanwl ar y Bil; a b) cyfle i gael adroddiad pwyllgor manwl am y Bil. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y Bil Brys wedi’i ddwyn gerbron y
Cynulliad cyn bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun wedi cau, a chyn bod yr
ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael i'w hystyried. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y byddai’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru
bennu isafswm cyflog heb gyfeirio’r mater at banel annibynnol o gwbl. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y byddai panel cynghori a fyddai’n cael ei
sefydlu o dan y Bil o dan ddisgresiwn Gweinidogion Cymru, a fyddai'n rheoli: a) cyfansoddiad a thrafodion y panel; b) penodi aelodau i’r panel; c) pwerau cyffredinol y panel, a d) ychwanegu, dileu neu ddiwygio swyddogaethau’r panel. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi: a) bod dibenion allweddol y Bil yn cynnwys swyddogaethau
pennu cyflogau, a b) nad yw cyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan
Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.40 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5289
Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddol (Cymru) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y
weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil o ystyried y cyfle a gafodd i
wneud hynny, a fyddai wedi cynnwys; a) pwyllgor yn craffu’n fanwl ar y Bil; a b) cyfle i gael adroddiad pwyllgor manwl am y Bil. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y Bil Brys wedi’i ddwyn gerbron y
Cynulliad cyn bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun wedi cau, a chyn bod yr
ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael i'w hystyried. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y byddai’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru
bennu isafswm cyflog heb gyfeirio’r mater at banel annibynnol o gwbl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y byddai panel cynghori a fyddai’n cael ei
sefydlu o dan y Bil o dan ddisgresiwn Gweinidogion Cymru, a fyddai'n rheoli: a) cyfansoddiad a thrafodion y panel; b) penodi aelodau i’r panel; c) pwerau cyffredinol y panel, a d) ychwanegu, dileu neu ddiwygio swyddogaethau’r panel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi: a) bod dibenion allweddol y Bil yn cynnwys swyddogaethau pennu
cyflogau, a b)
nad yw cyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5289 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.102: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo penderfyniad ariannol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) NDM5290 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru), yn
cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5290 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n
deillio o’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn
gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad
i’r Bil. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Cymru) 2013 NDM5287 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983)
(Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Mehefin 2013. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.46 Cytunwyd o dan Reol
Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân. NDM5287 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983)
(Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Mehefin 2013. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygiad i Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 NDM5286 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013
yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Mehefin 2013. Dogfennau Ategol Penderfyniad: NDM5286 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013
yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
18 Mehefin 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal - gohiriwyd NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau
cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn
ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Dogfennau Ategol I weld copi o’r Bil ewch i: Y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol y Bil Gofal |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Y GIG yng Nghymru - Dysgu o Ymchwiliad Francis NDM5288 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd
mewn ymateb i Adroddiad Francis. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod data ar farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i
gomisiynu Adroddiad Francis, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn
sgîl data marwolaethau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013. Gellir gweld data marwolaethau GIG Cymru drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/mortality/?skip=1&lang=cy Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn
uwch na’r cyfartaledd mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng
Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i
fynd i'r afael â’r ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o
ymchwilio pan fydd ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar
gyfer y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel
hirdymor fel un rheswm a gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer
nyrsys yng Nghymru. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi polisi newydd ar chwythu'r chwiban cyn
diwedd mis Gorffennaf 2013, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei llinell
gymorth ddi-dâl ei hun ar gyfer chwythu'r chwiban er mwyn ategu'r polisi hwn a
galluogi holl staff a chleifion y GIG i roi gwybod am eu pryderon yn ddienw. Dogfennau Ategol E-bostiwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Francis at Aelodau’r Cynulliad ar 2
Gorffennaf. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.56 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5288
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau y bydd
Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1
- William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod data ar
farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau
a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a
gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013. Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder
bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd
mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r
ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty
neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai
marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod. Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder
bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a
gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng
Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
ymrwymiad i gyhoeddi polisi newydd ar chwythu'r chwiban cyn diwedd mis Gorffennaf
2013, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei llinell gymorth ddi-dâl ei
hun ar gyfer chwythu'r chwiban er mwyn ategu'r polisi hwn a galluogi holl staff
a chleifion y GIG i roi gwybod am eu pryderon yn ddienw. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5288
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau y bydd
Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis. Yn nodi bod data ar
farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau
a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a
gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013. Yn nodi gyda phryder
bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd
mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r
ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty
neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai
marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod. Yn nodi gyda phryder
bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a
gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng
Nghymru.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18.46 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |