R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog dynnu sylw at y prif wersi sydd wedi cael eu dysgu yn sgîl adolygiadau o bolisi'r 1980au ar ardaloedd menter wrth sefydlu'r gyfres newydd o ardaloedd menter Cymru?OAQ(4)1172(FM)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am allu pobl sy’n ceisio prynu eu cartref cyntaf i wneud hynny?OAQ(4)1170(FM)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau ambiwlans ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1185(FM)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau cynllunio ynghylch yr iaith Gymraeg? OAQ(4)1173(FM)W
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu?OAQ(4)1174(FM)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo defnyddio Banc y Gymdeithas Fawr gymaint â phosibl ymysg cyrff anllywodraethol yng Nghymru?OAQ(4)1171(FM)
7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion i breifateiddio'r Post Brenhinol?OAQ(4)1187(FM)
8. Julie James (Gorllewin Abertawe):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amodau gwaith ar gyfer gweithwyr gofal yng Nghymru?OAQ(4)1186(FM)
9. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer gofal iechyd sylfaenol? OAQ(4)1181(FM)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod 2013 i fynd i’r afael â gordewdra plant yng Nghymru? OAQ(4)1179(FM)
11. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gost meddyginiaethau i’r GIG? OAQ(4)1184(FM)
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau a gaiff y Prif Weinidog â Gweinidogion newydd ynghylch cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru?OAQ(4)1183(FM)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gan gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru? OAQ(4)1178(FM)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gefnogi’r diwydiant twristiaeth yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1169(FM)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Ysbyty Gellinudd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)1175(FM)