Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau


 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1–7, 9-11 ac 13-15. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.25.

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltiad cyflogwyr â Sgiliau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.40.

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.15.

 

(60 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.52.

 

(60 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar  Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012.

Dogfennau Ategol
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

Adroddiad ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Adroddiad ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.36

NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar  Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Dadl ar Strategaeth Cymru ar y newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf

NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a

(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Gallwch weld Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Llywodraeth Cymru | Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd : Adroddiad cynnydd blynyddol cyntaf

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder:

a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Ty Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir y targed o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a

b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Ty Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau 3 y cant.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon ty gwydr.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a

(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder:

a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir darged 2020 o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a

b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau o 3 y cant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf;

(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd;

(c) yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd;

(d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd;

(e) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad; a

(f) yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.56

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: