Agenda

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

(0 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

 

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

(0 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

 

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

(60 munud)

5.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NNDM5625

 

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).

 

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi

NDM5644 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at Hybu Masnach a Mewnfuddsoddi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru

NDM5643 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu masnach rhwng Cymru ac Unol Daleithiau America;

 

2. Yn credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gael eu heithrio rhag effeithiau y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig;

 

3. Yn credu na ddylid caniatáu i'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig atal llywodraethau democrataidd rhag trefnu unrhyw wasanaethau eraill ar sail perchnogaeth gyhoeddus;

 

4. Yn gwrthwynebu cynnwys setliad ar gyfer anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn y cytundeb;

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch:

 

a) eithrio gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, o'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; a

 

b) gwrthod y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig os yw'r cytundeb terfynol, pan gaiff ei gyflwyno i'w gadarnhau, yn tanseilio pwerau llywodraethau democrataidd i wneud penderfyniadau.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cytundebau masnach rhyngwladol, fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, i greu dyfodol economaidd gwell i bobl Cymru;

 

2. Yn credu y dylai llywodraethau fod yn ymwybodol o bwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol, megis y GIG, wrth gytuno ar y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; a

 

3. Yn nodi cynsail partneriaethau masnach presennol sy'n cynnwys dulliau diogelu sy'n eithrio gwasanaethau cyhoeddus allweddol o gytundebau o'r fath.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwyntiau 2 i 5 a rhoi yn eu lle:

 

2. Yn croesawu trafodaethau ar fasnach a buddsoddi rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau a allai fod werth hyd at £10 biliwn ychwanegol i economi'r DU bob blwyddyn;

 

3. Yn croesawu sylwadau'r Comisiynydd Ewropeaidd dros Fasnach, Karel de Gucht, a ddywedodd wrth yr International Business Times: "Bydd eithriad i wasanaethau cyhoeddus yn y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, ac rydym wedi gwneud hynny'n glir iawn yn ein trafodaethau gyda'r Unol Daleithiau. Byddai hynny'n cynnwys y GIG...";

 

4. Yn croesawu'r ffaith na fydd y setliad ar gyfer anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn berthnasol i ddeddfwriaeth yr aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag iechyd, diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch; a

 

5. Yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn Ewropeaidd yn atal dros dro'r agwedd ar y cytuniad sy'n ymwneud â'r setliad ar gyfer anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau er mwyn ymgymryd â gwaith ymgynghori pellach.

 

Gallwch weld yr erthygl o'r International Business Times drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://www.ibtimes.co.uk/eu-trade-commissioner-karel-de-gucht-confirms-nhs-exemption-ttip-1456538 [Saesneg yn unig]

 

8.

Cyfnod pleidleisio

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM5642 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cymru ar y blaen – gwerthuso Cylchffordd Cymru.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: