Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Teyrnged Ieuan Wyn Jones Talodd y Llywydd deyrnged i Ieuan Wyn Jones, a oedd yn yr oriel gyhoeddus, yn dilyn ei ymddiswyddiad o’i sedd yn etholaeth Ynys Môn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygu’r cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru : Adroddiad cyntaf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Anghenion Dysgu Ychwanegol - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Y Papur Gwyn ynghylch Tai – Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Papur Gwyn NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu
Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn
tai gweddus a fforddiadwy; 2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o
weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad
tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; 3. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o
dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Gellir gweld y Papur Gwyn ynghylch Tai "Cartrefi i
Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell" drwy ddilyn y
linc ganlynol: http://cymru.gov.uk/docs/desh/consultation/120521whitepapercy.pdf Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘sylweddol' a rhoi yn ei
le ‘sy’n wynebu cyflenwyr tai a sefydliadau eraill yng Nghymru ers datganoli i
helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;’ Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn mynegi pryder am fethiant Llywodraeth Cymru i
gyflwyno’r cynllun NewBuy Cymru, sy'n cosbi’r rheini sy’n prynu ty am y tro
cyntaf yng Nghymru ac yn rhoi pobl sy’n prynu tai ac yn adeiladu tai o dan
anfantais yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen
20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar effeithiau’r
newidiadau i’r budd-dal tai. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd gydag agweddau
anneddfwriaethol y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r nifer bychan o dai newydd sydd
wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru; Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i sefydlu
cynllun integredig i fynd i’r afael â mater cartrefi gwag yng Nghymru ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag genedlaethol ar
gyfer Cymru. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun
achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod
landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai
yng ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth
landlordiaid a thenantiaid yn 2012. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei
le 'angen Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Marchnad Gyfan i gyflenwi mwy o
gartrefi a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.’ Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Arolwg Tai Cymru i
gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am broffil cartrefi a'r stoc tai yng Nghymru,
i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau tai Llywodraeth
Cymru. Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro
cyntaf yn gallu manteisio ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i
allu fforddio cartrefi.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth
Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a
fforddiadwy; 2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o
weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad
tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; 3. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o
dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym
mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘sylweddol' a rhoi yn ei le ‘sy’n wynebu cyflenwyr
tai a sefydliadau eraill yng Nghymru ers datganoli i helpu pobl i fyw mewn tai
gweddus a fforddiadwy;’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn mynegi pryder am fethiant Llywodraeth Cymru i
gyflwyno’r cynllun NewBuy Cymru, sy'n cosbi’r rheini sy’n prynu ty am y tro
cyntaf yng Nghymru ac yn rhoi pobl sy’n prynu tai ac yn adeiladu tai o dan
anfantais yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen 20,000
i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar
effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd gydag agweddau
anneddfwriaethol y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r nifer bychan o dai newydd sydd
wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun
integredig i fynd i’r afael â mater cartrefi gwag yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag genedlaethol ar gyfer
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun
achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod landlordiaid
da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng ngoleuni’r
cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth landlordiaid a
thenantiaid yn 2012. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le
'angen Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Marchnad Gyfan i gyflenwi mwy o
gartrefi a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Arolwg Tai Cymru i
gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am broffil cartrefi a'r stoc tai yng Nghymru,
i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau tai Llywodraeth
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio ar
gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth
Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a
fforddiadwy; 2. Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod
angen 20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru
ar effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai; 3. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun
achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod
landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng
ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth
landlordiaid a thenantiaid yn 2012; 4. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o
weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad
tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; 5. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o
dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl; a 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio
ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Gofal Sylfaenol a’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a
chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar
gyflwyno moratorium ar ddatblygu cynlluniau gofal sylfaenol newydd. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am
dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i
ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig difrifol. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn
gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn
y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a
Gofal Cymdeithasol. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar
gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r
ymgyrch Gweithio dros Gymru. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder am brinder deintyddion y GIG yng Nghymru
sy'n derbyn cleifion newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o
nifer y bobl nad ydynt yn gallu cael gafael ar ddeintydd y GIG yn eu hardal, i
ganfod lle mae problemau lleol yn bodoli. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.10 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a
chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar
gyflwyno moratorium ar ddatblygu cynlluniau gofal sylfaenol newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am
dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i
ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig
difrifol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn
gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn
y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a
Gofal Cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar
gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r
ymgyrch Gweithio dros Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi
pryder am brinder deintyddion y GIG yng Nghymru sy'n derbyn cleifion newydd ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o nifer y bobl nad ydynt yn gallu
cael gafael ar ddeintydd y GIG yn eu hardal, i ganfod lle mae problemau lleol
yn bodoli. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a
chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd. Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am
dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i
ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig
difrifol. Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn
gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn
y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a
Gofal Cymdeithasol. Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar
gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r
ymgyrch Gweithio dros Gymru.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.08 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |