Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y cwestiynau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3, 5 i 6 ac 8 i 15. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.28

 

Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr Caerdydd.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.36

3.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac Ymgysylltiad â Phobl Ifanc - Gohiriwyd

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar Cymwysterau Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ar yr Ymgynghoriad ar Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2014 - 2020

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar ailddechrau defnyddio eiddo gwag: cynllun Troi Tai’n Gartrefi

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

 

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus - cymalau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd - Gohiriwyd

 

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

I weld copi o’r Bil ewch i:

 

http://services.parliament.uk/bills/2012-13/publicservicepensions/documents.html

 

Dogfennau ategol:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(15 munud)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol

 

NDM5082 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

I weld copi o’r Bil ewch i:

 

http://services.parliament.uk/bills/2012-13/preventionofsocialhousingfraud/documents.html

 

Dogfennau ategol:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

 

NDM5082 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

9.

Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol

 

NDM5127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.53

 

NDM5127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2013-2014 (Setliad TerfynolCynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2013.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

5

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.41

 

(30 munud)

10.

Dadl Fer - gohiriwyd o 21 Tachwedd 2012

 

NDM5100 Andrew RT Davies (Canol De Cymru):

 

A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben?

 

Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.43

 

NDM5100 Andrew RT Davies (Canol De Cymru):

 

A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben?

 

Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru.  

 

 

Crynodeb o Bledleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: