Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1i 12 a chwestiwn 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 13. Tynnwyd cwestiwn 14 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys 1

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gwyn Price (Islwyn)
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr asbestos a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn.

Cwestiwn Brys 2

Dechreuodd yr eitem am 14.27

Mick Antoniw (Pontypridd)

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn y cyhoeddiad y bore yma gan Lywodraeth y DU, yn cadarnhau ei bwriad i ddirwyn y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol i ben heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.38

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: y cynnydd wrth weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i gau ffatrïoedd Remploy

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.51

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Y Diweddaraf ar Twf Swyddi Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Cymunedol a Chynnydd ar Bennod 7 y Rhaglen Lywodraethu

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

(60 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

NDM5063 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol  Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref 2012.

Dogfennau Ategol
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Memorandwm Esboniodol
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Adroddiad
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

NDM5063 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol  Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar yr Adroddiad ar Ddinas-Ranbarthau

NDM5064 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r adroddiad am y Dinas-ranbarthau.

Dogfen Ategol
Mae’r adroddiad am y Dinas-ranbarthau ar gael drwy’r ddolen hon:

http://wales.gov.uk/docs/det/publications/12076cityregionsrpten.pdf (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Yn mynegi pryder nad yw’r adroddiad yn rhoi digon o sylw i'r rôl y gall canolfannau diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ei chwarae i arwain y twf economaidd yng ngogledd Cymru.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.56

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder nad yw’r adroddiad yn rhoi digon o sylw i'r rôl y gall canolfannau diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ei chwarae i arwain y twf economaidd yng ngogledd Cymru.

 Tynnwyd gwelliant 3 yn ôl.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5064 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r adroddiad ar y Dinas-ranbarthau.

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: